Gohirio Hanner Marathon Caerdydd am y trydydd tro
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr ras Hanner Marathon Caerdydd wedi cadarnhau fod y digwyddiad wedi ei ohirio am y trydydd tro.
Yn wreiddiol roedd y ras wedi'i threfnu ar gyfer Hydref 2020, cyn cael ei ohirio tan fis Mawrth 2021.
Gobaith y trefnwyr bellach ydy cynnal y digwyddiad ar 27 Mawrth 2022.
Dywedodd Run 4 Wales eu bod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd "ansicrwydd" ynglŷn â'r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol yng Nghymru.
Eu gobaith bellach ydy cynnal dau hanner marathon yn y brifddinas yn 2022 - y cyntaf fis Mawrth a'r ail fis Hydref.
Mae'r ras wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'i fath yn y DU gyda 27,500 o redwyr a hyd at 100,000 yn gwylio ar y teledu.
Dyma'r drydedd ras fwyaf yn y DU bellach, tu ôl i Farathon Llundain a'r Great North Run yn unig.
'Parhau yn ansicr'
Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: "Er bod y broses o gyflwyno brechlynnau yn y DU yn parhau i gynnig gobaith, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr."
Ar hyn o bryd, 4,000 o bobl ydy'r mwyafrif allai gymryd rhan yn y ras, ac mae hynny'n cynnwys rhedwyr a gwylwyr.
"Hefyd, ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i lacio'r rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, sy'n cyflwyno heriau gweithredol sylweddol i drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol," ychwanegodd Mr Newman.
"Mae iechyd a diogelwch cyfranogwyr y ras, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff Run 4 Wales ar flaenllaw ein meddwl wrth wneud penderfyniadau a gobeithiwn fod pawb yn deall y rhesymau dros y penderfyniad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020