T20: Morgannwg yn colli yn erbyn Essex

  • Cyhoeddwyd
chris cooke
Disgrifiad o’r llun,

Y capten Chris Cooke oedd prif sgoriwr Morgannwg... gyda 25!

Colli oedd hanes Morgannwg nos Iau yn yr ornest ddiweddaraf yn y bencampwriaeth T20 yn Chelmsford.

Morgannwg alwodd yn gywir a dewis batio.

Roedd dechrau'r batiad yn sigledig, ond roedd hi'n ymddangos bod Dan Douthwaite a Billy Root wedi sefydlogi pethau wrth i Forgannwg gyrraedd 91 am 4 wiced.

Ond yna fe gollodd Root ei wiced ac fe aeth y batiad ar chwal yn gyfan gwbl.

Collodd Morgannwg eu chwe wiced olaf am 13 rhediad yn unig, gan orffen gyda chyfanswm o 104 mewn 17 pelawd.

Roedd y tîm cartref ar frys i gyrraedd y nod, ac fe wnaethon nhw hynny mewn 12.2 pelawd a gyda 8 wiced mewn llaw.

Pynciau cysylltiedig