Sussex yn trechu Morgannwg o 33 rhediad yn y T20

  • Cyhoeddwyd
Luke WrightFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y capten Luke Wright oedd un o'r rheiny i serennu i Sussex

Cafodd Morgannwg eu trechu o 33 rhediad gan Sussex yn y T20 yng Nghaerdydd nos Wener.

Ar ôl penderfynu batio llwyddodd Sussex i gyrraedd cyfanswm cryf o 201-8 yn eu 20 pelawd nhw.

Perfformiad gwych gan y ddau oedd yn agor y batio - Philip Salt (63) a Luke Wright (77) - oedd y prif reswm dros hynny, gydag ychydig iawn o help gan y batwyr eraill.

Er i Forgannwg gael dechrau addawol, gyda David Lloyd yn sgorio 51, llwyddodd yr ymwelwyr i'w bowlio allan am gyfanswm o 168 o fewn 18.4 pelawd.

Pynciau cysylltiedig