Morgannwg ar ei hôl hi wedi glaw yn Hove

  • Cyhoeddwyd
Orr

Mae Morgannwg 122 o rediadau y tu ôl Sussex ar ôl i dywydd garw atal y chwarae am ran helaeth o ddydd Mawrth.

Bydd Sussex yn dechrau'r diwrnod olaf ar 111-4 yn eu hail fatiad, wedi i Ali Orr achub ei dîm - oedd ar 19-3 am gyfnod.

Ni ddechreuodd y chwarae nes 16:00, ac fe fowliodd Timm van der Gugten a Michael Hogan yn dda i ddechrau.

Ond fe wnaeth Orr ac Oli Carter - yn chwarae ei gêm gyntaf i Sussex - achub y batiad.

Fe fydd Orr yn parhau ar 54 heb fod allan ar y diwrnod olaf.

Pynciau cysylltiedig