100 o swyddi mewn ffatri ger Abertawe yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
3M water tower at the 3M factory in PenllergaerFfynhonnell y llun, Nigel Davies | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffatri 3M yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer gofal personol a rhannau ceir

Mae dros 100 o swyddi yn y fantol mewn ffatri ar gyrion Abertawe yn dilyn cyhoeddiad y bydd y safle yn cau.

Dywed cwmni 3M bod cyfnod ymgynghori 45 diwrnod i staff wedi cychwyn.

Os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo bydd y ffatri ar Ffordd Gorseinon ym Mhenlle'r-gaer yn cau dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda rhan o'r gwaith cynhyrchu yn symud i leoliadau eraill.

Dywed y cwmni y gallai cau'r ffatri effeithio ar 100 o staff parhaol a 10 gweithiwr dros dro.

Dywedodd Lars Hanseid, rheolwr gyfarwyddwr cwmni 3M yng ngogledd Ewrop: "Fe wnawn ni gysylltu â staff mewn ffordd broffesiynol, onest, agored a theg.

"Ein bwriad yw rhannu ein syniadau am brosesu gyda nhw ac fe fydd hawl gan bob aelod o staff ofyn cwestiwn neu wneud sylw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwneud cais am gyfarfod gyda'r cwmni i drafod y sefyllfa.

Pynciau cysylltiedig