Elusen bwyd yn apelio am wirfoddolwyr i gwrdd â'r galw
- Cyhoeddwyd
Mae elusen bwyd sy'n helpu i gefnogi pobl fregus yn apelio am help gwirfoddolwyr wrth i'r galw am becynnau bwyd gynyddu i "lefel nas gwelwyd cyn hyn".
Mae FareShare Cymru yn defnyddio bwyd o ansawdd da gan gwmnïau bwyd a diod ac yna yn ei ddosbarthu i 197 o elusennau eraill, grwpiau cefnogaeth a phobl fregus - gan gynnwys hostelau i'r digartref.
Mae'r galw am help yn cynyddu medd yr elusen, ac eleni yn unig maen nhw wedi dosbarthu dros 1,188 tunnell o fwyd, sydd wedi ei ddefnyddio i greu dros 2.8 miliwn o brydau bwyd.
Dywedodd Sarah Germain, rheolwr prosiect FareShare Cymru, eu bod yn gofyn i bobl sydd "efallai â 'chydig o amser sbâr dros yr haf i helpu i gwrdd â'r cynnydd mewn galw am fwyd".
"Mae'r gwasanaeth wedi bod yn hanfodol dros gyfnod y pandemig," meddai.
Mae'r elusen yn dweud fod gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn helpu yn ystod cyfnod Covid nawr yn dechrau mynd yn ôl i'w gwaith, ac mae hynny yn golygu fod gyrwyr ar gyfer faniau yr elusen yn arbennig o brin.
Yn ôl Ms Germain: "Mae angen gyrwyr newydd i wirfoddoli er mwyn sicrhau fod bwyd yn cyrraedd platiau pobl."
'Rhoi rhywbeth nôl'
Dywedodd Dan Richards, un o reolwyr y prosiect, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru bod "croeso i unrhyw un gysylltu a chael y profiad o helpu".
"Trwy gydol amser Covid mae'r galw wedi dyblu," meddai.
Fe ddechreuodd Mr Richards fel gwirfoddolwr gyda'r elusen cyn penderfynu ceisio am swydd gyda FareShare Cymru.
"Ro'n i ishe rhoi rhywbeth nôl," meddai.
"Rwy wedi bod yn ffodus iawn yn fy mywyd - wedi bod yn gyfforddus trwy fy mywyd.
"Mae hwn 'di bod yn rhywbeth really positif i fi. Chi'n gweithio yn galed, ond chi'n cerdded i ffwrdd yn teimlo eich bod chi wir wedi g'neud gwahaniaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020