Coronafeirws: Cronfa elusennau yn codi £1m mewn wythnos

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwr gyda grwp cymunedol Caru Amlwch yn darparu cynnyrch ar gyfer banc bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwr gyda grŵp cymunedol Caru Amlwch yn didoli cynnyrch ar gyfer banc bwyd

Mae cronfa gafodd ei sefydlu i helpu elusennau Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws wedi codi £1m yn barod.

Bwriad Sefydliad Cymunedol Cymru (SCC) ydy dosbarthu'r arian i grwpiau gwirfoddol ac elusennau sy'n helpu pobl fregus. Bydd hefyd yn cefnogi sefydliadau sy'n addasu'r ffordd maen nhw'n ymateb i anghenion newydd eu cymunedau.

Cafodd y gronfa ei sefydlu ddiwedd mis Mawrth gyda'r nod gwreiddiol o godi £200,000. Ond mewn ychydig dros wythnos, diolch i gyfraniadau hael gan unigolion a chwmniau, mae yna £1m wedi dod i'r coffrau.

Er mwyn sicrhau bod yr arian yn mynd i'r llefydd sydd wir ei angen, mae SCC yn ymgynghori gyda'r trydydd sector yng Nghymru i glywed beth yw'r anghenion brys a'r hyn fydd ei angen yn y dyfodol.

Helpu cymunedau bregus

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr CSS: "Mae'r feirws yn ddigwyddiad eithriadol sydd yn barod yn cael effaith anferthol ar elusennau a grwpiau cymunedol ar draws Cymru. 'Da ni'n gwybod bod y grwpiau hyn yn mynd wynebu heriau enfawr.

"'Da ni hefyd yn gwybod eu bod nhw'n mynd i orfod newid y ffordd maen nhw'n gweithio yn sydyn iawn er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth maen nhw angen.

"Mae gan dyngarwch rôl bwysig er mwyn cefnogi ac ehangu'r ymateb gan y llywodraeth, yn enwedig i helpu'r cymunedau mwya' bregus."

Un grŵp cymunedol sydd wedi derbyn arian gan gronfa coronafeirws SCC ydy Caru Amlwch. Maen nhw wedi ehangu'r ddarpariaeth banc bwyd yn lleol er mwyn ymateb i'r anghenion diweddara', fel y sonia un o'u gwirfoddolwyr Llinos Wyn Williams:

"'Da ni wedi bod yn chwilio am grantiau dros yr wythnosau diwetha' a 'da ni wedi bod yn lwcus i gael £2,000 gan y gronfa. Efo'r arian yna, 'da ni wedi gallu prynu nwyddau fel bwyd babi a chlytiau ac ati.

"Mae'n anodd cael cyflenwadau mawr o'r pethau yma o'r siopau felly 'da ni wedi gallu prynu nhw oddi ar y we. Fasan ni ddim wedi gallu gwneud hynny heb yr arian grant.

"Mi fydd angen y gefnogaeth ar ôl i'r pandemig orffen hefyd. Pan fydd o drosodd fydd 'na dlodi o gwmpas, pobl wedi colli'u swyddi ac ati.

Disgrifiad o’r llun,

Liz Wood, un o'r gwirfoddolwyr yn cadw cofnodion. Bu cynnydd mawr yn y defnydd o fanciau bwyd ar Ynys Môn yn ddiweddar

"'Da ni wedi gweld cynnydd eithriadol yn y defnydd o fanciau bwyd ar Ynys Môn. Roedd 'na oddeutu 18 o becynnau'n mynd allan bob wythnos ar draws yr ynys cyn amser Covid-19. Wythnos diwetha' roedd 'na 78."

Er mwyn sicrhau'r gefnogaeth orau bosib i gymunedau Cymru, mae SCC yn cydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (NET), sydd wedi lansio apêl drwy'r Deyrnas Unedig.

Mae SCC yn dosbarthu gwerth £2.6m o grantiau yng Nghymru bob blwyddyn ac mae 'na dros 30,000 o grwpiau ac elusennau yn gweithio'n galed i helpu cymunedau ar draws y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Wyn Williams (canol) a gwirfoddolwyr eraill yn darparu pecynnau i'r banciau bwyd