Chweched dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio Tomasz Waga

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r cyhoedd ddaeth o hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar yng Nghaerdydd fis Ionawr wedi cyhuddo chweched person mewn cysylltiad â'i lofruddiaeth.

Mae Ajet Mehalla, 41 oed o ardal Tyllgoed y brifddinas, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ymosod, a chynllwynio i greu cyffuriau dosbarth B.

Bu'n ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener ble cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae pum dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac maen nhw yn y ddalfa'n aros am achos llys.

Bu farw Tomasz Waga o Wlad Pwyl, ond oedd yn byw yn Essex, ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Westville, Pen-y-lan, yn hwyr ar 28 Ionawr eleni.

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth Mr Waga: Gledis Mehalla, Elidon Elezi, ac Artan Pelluci.

Maen nhw hefyd yn awyddus i ganfod car Mercedes C200 Sport llwyd neu arian, gyda'r rhif cofrestru BK09 RBX.

Pynciau cysylltiedig