Cadeirydd YesCymru yn gadael 'oherwydd pwysau'r rôl'

  • Cyhoeddwyd
Siôn Jobbins
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Jobbins yn siarad mewn rali yng Nghaerdydd

Mae cadeirydd mudiad annibyniaeth YesCymru, Siôn Jobbins wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu, yn rhannol oherwydd "pwysau'r rôl".

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud y penderfyniad am "resymau personol oherwydd fy iechyd", yn hytrach nag er mwyn "gwneud pwynt gwleidyddol".

Llynedd fe dyfodd aelodaeth y mudiad yn sylweddol, ond maen nhw hefyd wedi wynebu anghydfod mewnol yn ddiweddar am bolisïau a chyfeiriad y grŵp.

Yn dilyn ymadawiad Mr Jobbins, bydd Sarah Rees yn cymryd yr awenau fel cadeirydd dros dro YesCymru.

'Angen newid strwythurol'

Bu Sion Jobbins yn y rôl wirfoddol ers dwy flynedd a hanner, gan weld twf yn yr aelodaeth o ychydig gannoedd i tua 18,000 yn y cyfnod hwnnw.

Mae nifer o bolau piniwn hefyd wedi dangos twf yn y gefnogaeth i annibyniaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r mudiad yn cynnal sawl rali dros yr achos yn y cyfnod cyn y pandemig.

Ond dywedodd Mr Jobbins fod pwysau'r swydd wedi mynd yn ormod iddo'n ddiweddar, gan awgrymu fod y mudiad hefyd angen newid ei ffordd o weithio.

Disgrifiad o’r llun,

Torfeydd ym Merthyr Tudful yn ystod un o ralïau annibyniaeth YesCymru

"Mae'r dirwedd wleidyddol wedi newid yn sylweddol a dyw cefnogaeth dros annibyniaeth erioed wedi bod mor gryf ar draws y sbectrwm gwleidyddol," meddai mewn datganiad.

"Ond gyda'r math yna o dwf, mae disgwyliadau, cyfrifoldebau, a'r galw am ganlyniadau a'r angen am newidiadau strwythurol o fewn ein sefydliad hefyd wedi dod i'r amlwg.

"Mae'n siŵr fod hyn yn broses arferol i unrhyw fudiad sy'n tyfu'n gyflym, ac mae'n pwyso'n drwm arna i."

Ychwanegodd fod twf yng nghefnogaeth y mudiad wedi arwain at "lawer o wahanol safbwyntiau a syniadau" ar annibyniaeth i Gymru, gan alw ar aelodau i "aros yn gryf... [a] pharhau i fod yn fudiad torfol".

Pynciau cysylltiedig