Dirywiad cyson cynlluniau iaith yn 'destun pryder' - comisiynydd
- Cyhoeddwyd
Mae perfformiad sefydliadau wrth weithredu eu cynlluniau iaith wedi dirywio’n gyson dros y tair blynedd diwethaf o ran gwasanaethau ffôn, gohebiaeth a chyfryngau cymdeithasol.
Dyna ganfyddiad arolygon gwirio gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae hyn yn "destun pryder" meddai'r comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, "o ystyried bod aelodau’r cyhoedd yn fwy tebygol o gysylltu’n uniongyrchol â sefydliadau drwy ohebiaeth, galwad ffôn, ac, yn gynyddol, drwy’r cyfryngau cymdeithasol".
Gwelwyd cynnydd ym mherfformiad sefydliadau sydd â chynlluniau iaith o ran eu gwefannau, hysbysebu swyddi, dogfennau, ffurflenni a hunaniaeth gorfforaethol.
Wrth asesu cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith Gymraeg 2023–24, dywedodd y comisiynydd bod "lefelau cydymffurfiaeth yn gyffredinol is ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n parhau i weithredu cynlluniau iaith Gymraeg" o gymharu gyda sefydliadau sy'n dod o dan safonau’r Gymraeg.
Daw i'r casgliad bod "hyn yn dangos bod cyfundrefn orfodol safonau’r Gymraeg yn llawer mwy effeithiol, ac yn arwain at well gwasanaethau a chynnydd gwirioneddol mewn cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg".
Beth ydy'r cynlluniau iaith?
Cyflwynwyd cynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac mae'r comisiynydd yn cynnal arolygon ac yn gwirio gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y sefydliadau sy’n eu gweithredu.
Mae gan tua 300 o sefydliadau gynllun iaith, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, cymdeithasau tai, cynghorau tref a chymuned, a nifer o asiantaethau a chyrff eraill.
Mae'r hyn sy’n ddisgwyliedig i gyrff ei ddarparu yn Gymraeg yn amrywio o un sefydliad i’r llall, a hynny’n ddibynnol ar yr ymrwymiadau y cytunwyd arnynt wrth lunio cynllun iaith.
Cyflwynwyd Safonau'r Gymraeg o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac mae dros 130 o sefydliadau cyhoeddus yn eu gweithredu.
Maen nhw'n cynnwys cynghorau sir, parciau cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a phrifysgolion.
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2023
'Gwasanaethau allweddol yn wan'
Dywedodd y comisiynydd ei bod yn "deg dweud felly bod y gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd gan sefydliadau sy’n gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg yn parhau yn anghyson".
Ychwanegodd, "er bod cynnydd a gwaith da yn digwydd mewn mannau, mae’n amlwg o’n canfyddiadau eleni fod peidio gallu gorfodi ymrwymiadau cynlluniau iaith fel sy’n bosibl yng nghyd-destun y safonau yn golygu bod rhai gwasanaethau allweddol yn parhau yn wan".
"Ni allwn ddisgwyl gweld yr un newid mewn gwasanaethau Cymraeg a welwyd mewn sectorau eraill yn sgil dyfodiad y safonau heb ddod â’r sefydliadau sy’n gweithredu cynlluniau iaith ar hyn o bryd o dan y gyfundrefn honno hefyd."
Mae sefydliadau "yn raddol" yn trosglwyddo o weithredu cynlluniau iaith i safonau’r Gymraeg, meddai.
Ymhlith casgliadau eraill y comisiynydd wrth drafod cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith Gymraeg 2023–24:
Mae angen i’r sector iechyd barhau i gymryd camau bwriadol a phenodol i gynyddu capasiti a chreu gweithleoedd sy’n fwy ymatebol i anghenion defnyddwyr y Gymraeg;
Mae angen sicrhau gwell cysondeb yn y modd y pennir sgiliau iaith Gymraeg wrth recriwtio a hysbysebu;
Mae angen i bob sefydliad wneud mwy i amlygu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, gan sicrhau fod y Gymraeg yn weladwy ac yn cael ei chynnig yn hwylus;
Mae angen i bob sefydliad ystyried a yw eu polisi presennol ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol yn debygol o sbarduno’r newid positif sydd ei angen i alluogi staff i fyw bywyd gwaith yn gynyddol drwy’r Gymraeg;
Wrth ddelio â chwynion, dylai sefydliadau fod yn agored i drafod pryderon, gan annog adborth barhaus gan ddefnyddwyr.
'Cael gwared ar unrhyw rwystrau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry’n ni am weld pob sector yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg a hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gydweithio i sicrhau ein bod yn cael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio'r iaith ac i sicrhau ei bod yn ffynnu."
Mae Llywodraeth Cymru o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan yn parhau i gyflwyno rheoliadau safonau'r Gymraeg er iddi hi oedi gwneud hynny pan yn weinidog y Gymraeg.
Penderfynodd hi yn 2018 na fyddai Llywodraeth Cymru'n gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu'r safonau am y tro am fod "y broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, costus a chymhleth".
Fe wnaeth ei holynydd Jeremy Miles fwrw ymlaen gyda'u cyflwyno, ac mae hynny yn parhau o dan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Mark Drakeford.