'Pwysig gwarchod' murluniau eiconig Cymru
- Cyhoeddwyd
O Cofiwch Dryweryn ar yr A487 i'r cerddor Gwenno ar Glwb Ifor Bach, mae gan Gymru nifer o furluniau cyfarwydd sydd wedi dod yn rhan annatod o’u cynefin.
Gyda murluiau yn cael eu difrodi gan fandaliaeth, y tywydd ac adeiladau yn cael eu dymchwel mae gan Gymdeithas yr Ugeinfed Ganrif ymgyrch i ddiogelu rhai sydd wedi eu creu ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r artist a’r darluniwr Siôn Tomos Owen, sydd wedi gwneud sawl murlun, yn cefnogi’r ymgyrch ac yn dweud bod y gwaith celf cyhoeddus yn ffordd bwerus o rannu stori neu ddehongli safbwynt gwleidyddol neu gymdeithasol.
“Fel murlunwr fi ddim yn disgwyl i rai fi para amser hir iawn ond mae 'na rai gan artistiaid pwysig yr 20fed ganrif fi’n meddwl bod hi’n bwysig cadw nhw yn enwedig pan fo cymaint o hanes yn cael ei dymchwel a’i ail adeiladu,” meddai mewn sgwrs ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.
“Mae pethe fel murluniau yn beintiad mawr sydd am ddim i’r cyhoedd, ac yn bwysig i’w cadw fi’n meddwl.
“Maen nhw’n cofnodi cyfnod, fel cerfluniau.
"Ond fel arfer mae cerfluniau yn cofnodi person ond mae murlun fel arfer ynglŷn ag ymgyrch neu gyfnod, maen nhw’n fawr am reswm ac yn lliwgar fel arfer ac ar adeiladau cyhoeddus ac mae pobl yn gallu dysgu am hanes ac am gyfnod mewn ffordd ffresh a diddorol.”
Dywedodd bod nifer o furluniau trawiadol yng Nghymru sy’n cyflawni hyn - gan gynnwys My City My Shirt sy’n adlewyrchu cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru a Chaerdydd a dathlu’r bobl sy’n byw yn y brif ddinas.
Yn ei brofiad o, mae llai o furluniau gwleidyddol yn cael eu gwneud ym Mhrydain o’i gymharu â gwledydd eraill gan nad ydi’r mudiadau neu gwmnïau sy’n eu hariannu yn fodlon derbyn y risg.
“Maen nhw jest ofn y backlash weithiau,” meddai.
“Fi wedi cael rhai, un yn ddiweddar, lle oedd e wedi mynd drwy nifer o ddrafftiau i geisio plesio pawb - a chi methu plesio pawb gyda murluniau.
“Ma’ fe’n colli rhan o’i naws wedyn yn enwedig pethe gwleidyddol lle chi’n ceisio cael rhywun i feddwl am be chi’n creu.”
Ychwanegodd bod digwyddiadau fel dymchwel adeilad gyda murlun arno am hanes y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 2013 er mwyn adeiladu canolfan siopau yn dangos pa mor bwysig ydi gwarchod murluniau.
Er nad yw’n ymarferol gwarchod pob murlun, yn aml mae opsiwn o ail beintio neu symud rhan o’r adeilad - fel ddigwyddodd gyda gwaith yr artist enwog Banksy ym Mhort Talbot.
“Fi’n anghytuno gyda hynny - i gymryd y wal lawr a rhoi e mewn tŷ rhywun neu mewn rhyw oriel gudd,” meddai Siôn.
“Yr holl bwynt yw bod e yna i’r cyhoedd weld am ddim - ond weithie maen nhw jest yn cael eu dymchwel neu eu peintio drostyn nhw - hwnna yw’r peth wedyn mae 'na fodd achub nhw neu symud nhw.
“Enghraifft arall yw Cofiwch Dryweryn - dim ond geiriau ar wal yw nhw a does braidd dim o’r wal ar ôl ond mae mor bwysig i ni fel Cymry erbyn hyn mae fe’n cael ei edrych ar ei ôl ac yn cael ei ail beintio.
“Mae bach yn wahanol efo darnau o gelf mawr bydde’n anodd i’w ail beintio ond maen nhw yn ail beintio pethe’ fel y frescoes ac yn adnewyddu nhw i geisio cadw rhyw fath o liwiau yno felly mae modd neud e.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022