Dyn ar ffo rhag yr FBI yng Nghymru yn 'ddymunol, hoffus a distaw'
- Cyhoeddwyd
Roedd dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng ngogledd Cymru yn "ddymunol, hoffus, a digon distaw", yn ôl un wnaeth werthu ei dŷ iddo'r llynedd.
Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy, ddydd Llun, ar ôl bod ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau ers 20 mlynedd.
Dywedodd Aled Evans nad oedd wedi adnabod lluniau'r FBI yn syth, ond ei fod bellach yn sicr mai dyma'r dyn wnaeth gyflwyno ei hun fel 'Danny' wrth brynu'r tŷ am £425,000.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Mr Evans bod y tŷ a werthodd mewn lleoliad anghysbell fyddai'n "le perffaith iddo fo brynu a cadw ei ben i lawr".
Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio mewn cysylltiad â dau fom wnaeth ffrwydro yn ardal San Francisco, California yn 2003.
Mae gwybodaeth gan yr FBI yn dweud fod dau fom wedi ffrwydro tua awr ar wahân ar 28 Awst 2003 ar gampws cwmni biotechnoleg yn Emeryville.
Fe wnaeth bom arall oedd yn cynnwys hoelion ffrwydro ar safle cwmni cynhyrchion maeth yn Pleasanton ar 26 Medi 2003.
Cafodd San Diego ei gyhuddo mewn llys yn California ym mis Gorffennaf 2004 am ei gysylltiad honedig â’r troseddau, yn ôl yr FBI.
Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ddydd Mercher eu bod yn credu bod San Diego yn byw yn yr ardal ers "nifer o flynyddoedd", o bosib dan enw arall.
Mae Mr San Diego wedi cael ei gysylltu â grŵp hawliau anifeiliaid eithafol yn y gorffennol gan yr FBI.
Ar ôl ei arestio, dywedodd llefarydd ar ran yr FBI ei fod “yn dangos, waeth pa mor hir mae'n ei gymryd, bydd yr FBI yn dod o hyd i chi".
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl
Mae'n wynebu cael ei gludo yn ôl i’r Unol Daleithiau er mwyn wynebu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ymddangosodd Mr San Diego yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth, wrth i'r achos o'i gludo ddechrau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Roedd gwobr o $250,000 (£199,000) am wybodaeth oedd yn arwain at ei ganfod.
Dyn 'dymunol, hoffus, distaw'
Mae gwybodaeth Y Gofrestrfa Tir yn dangos fod Mr San Diego wedi defnyddio'r enw Danny Webb i brynu'r tŷ am £425,000 ar 10 Awst, 2023.
Dywedodd Aled Evans ei fod wedi gwerthu'r tŷ i ddyn o'r enw 'Danny'.
"Buon ni'n sgwrsio â fo am ryw bum munud ac 'oedd o wedi ei syfrdanu gyda'r olygfa o'r lle.
"'Oedd y golygfa o Llidiart y Coed yn werth ei weld a dyna ddaru werthu'r lle i fo a ro'th o gynnig ar y tŷ dydd Llun a felly fuodd hi, ddaru o brynu’r lle."
Roedd o'n ddyn "dymunol, hoffus a digon distaw," meddai Mr Evans.
"O'n i'n meddwl na Canadian oedd o, ddim Americanwr, am bod o'n siarad yn ddistaw...
"'Oedd o'n licio beicio mynydd a'r goedwig wrth y tŷ - 'oedd o'n edrych ymlaen at fynd ar ei feic trwy'r coed.
"Fe wnaeth cyn-gymydog ffonio ni gyda'r nos nos Fercher... nes i edrych ar y lluniau eto a meddwl 'ia, fo ydi o'."
Dywedodd Mr Evans fod 'Danny' wedi dweud iddo ddod i Gymru i weithio.
"'Oedd o'n gweithio ym myd IT ac oedd o'n dweud bod o'n byw yn ochra'r Wyddgrug, a bod genna fo dŷ yn Wyddgrug a doedd genna fo ddim angen gwerthu hwnnw cyn prynu lle ni, so doedd pres ddim yn swnio'n broblem."
Mae'r tŷ mewn lleoliad eithaf anghysbell, meddai Aled - sy'n dweud fod y newyddion "heb suddo i fewn eto".
"'Oedd y tŷ yn arbennig, fel 'sa chi'n deud - you either love it, or hate it - doedd o'm yn dŷ i 90% o bobl.
"'Oedd yr ardd yn fawr, a 'chydig bach yn serth. Ac oedd 'na waith - dyna pam oedda ni'n gadael oherwydd fod ni'n gwario gormod o amser yn garddio ac yn edrych ar ôl y lle.
"Ond fel mae pethau wedi troi allan, 'oedd o'n le perffaith i fo brynu a cadw'i ben i lawr."
Ychwanegodd bod y dyn wedi "dotio at yr olygfa", ond bod siawns y "bydd ei olygfa am y blynyddoedd nesaf yn ddipyn salach yn bydd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl