'Yma o Hyd': Plant Llanelli yn llwyfannu sioe i ddathlu gyrfa Dafydd Iwan
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymgyrchydd iaith a'r canwr gwerin poblogaidd Dafydd Iwan wedi bod yn sôn am ei falchder a'r anrhydedd ar ôl gweld perfformiad sioe gerdd ysgol uwchradd yn cloriannu ei hanes a'i ran ym mrwydr yr iaith.
Roedd Dafydd Iwan yn bresennol ym mherfformiad olaf 'Yma o Hyd' yn Theatr Ffwrnais, Llanelli a dywedodd fod sioe Ysgol y Strade wedi bod yn gyfrwng hynod i gofnodi brwydr yr iaith dros y blynyddoedd.
Aeth ar y llwyfan ar ddiwedd y perfformiad i ddangos ei werthfawrogiad i ac i ymuno yn yr encore wrth arwain a chyd ganu gyda chast 'Yma o Hyd.
Wedi'r sioe, aeth i gefn y llwyfan i ddiolch yn bersonnol i'r disgyblion a'r staff.
Pennaeth Adran Gerdd Ysgol Y Strade, Christopher Davies gafodd y syniad gwreiddiol o lwyfannu sioe o'r fath pan ddathlodd y canwr gwerin ei ben-blwydd yn 80 ym mis Awst 2023.
"Rwy'n cofio meddwl ar y pryd wrth glywed y byddai'n troi yn 80 oed fod yna drysorau o ganeuon a byddai hyn yn gwneud stori dda ar gyfer sioe gerdd.
"Ond oherwydd bod yr ysgol fel pob ysgol arall y dyddiau hyn yn cael amser anodd o ran cyllid, bu'n rhaid aros blwyddyn arall cyn gallu cael yr arian a llwyfannu’r cyfan."
Perfformiodd cast o 140 o ddisgyblion y i theatr lawn am dair noson yn olynol.
Ystyriaeth arall amlwg, medd Mr Davies, oedd yr adfywiad diweddar yng nghaneuon Dafydd Iwan yn dilyn llwyddiant 'Yma o Hyd'.
Cafodd y gân ei mabwysiadu gan gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn ystod ymgyrch lwyddiannus Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y Byd 2022, a gwahoddwyd Dafydd Iwan i ganu yn Stadiwm Dinas Caerdyd yn y gêm hollbwysig yn erbyn Awstria.
"Mae ei ganeuon yn adrodd hanes ei fywyd, ac fel testun pwy all ofyn am well. Ac yn dilyn llwyddiant diweddar Yma o Hyd yn y byd pêl-droed roedd enw Dafydd Iwan yn gyfarwydd i genhedlaeth newydd."
"Mae yna hefyd yr ymgyrch bwysig dros yr iaith a chyfiawnder, a'i rôl fel gwleidydd [yn y sioe.] Mae yna gymaint o straeon."
"Ac mae'r neges sy'n ganolog i'r caneuon yn bwysig i ddisgyblion heddiw – neges o ba mor galed oedd brwydr yr iaith, a'r rhai aeth i garchar dros ein hawliau."
Ychwanegodd mai'r gwaith caled oedd dewis pa ganeuon i gynnwys oherwydd bod y dewis mor eang.
"O'n i'n gwybod am ryw bump o ganeuon oeddwn i am eu cynnwys ond wedyn oedd yn rhaid gadael i awduron y sgript Nia Griffith a Tudur Dylan Jones ddewis y gweddill oherwydd mai nhw oedd yn gyfrifol am y geiriau oedd yn plethu'r caneuon a'r cyfan at ei gilydd.
"Fe wnaethom gyflogi cerddorion proffesiynol [yn y sioe] oherwydd os 'da chi'n siŵr bod y sylfaen yn iawn yna mae popeth arall yn gallu eistedd ar ei ben."
Mae'r stori ei hun yn dechrau drwy olrhain hanes y teulu yn symud o Frynaman i Lanuwchllyn, a'r prinder o addysg Gymraeg oedd ar gael yn y cyfnod wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedyn, trwy gyfres o ganeuon mae'r sioe yn olrhain hanes brwydr yr iaith a rhan Dafydd Iwan yn hyn oll.
Pan gysylltodd yr ysgol gyda Dafydd Iwan yn gyntaf dywedodd Mr Iwan wrth Cymru Fyw:
"Nes i freuddwydio mae'n rhaid bo' fi di marw oherwydd bod nhw ond yn gwneud pethau fel hyn pan ma' rywun 'di marw, ond na o ddifri, dwi'n falch iawn o'r anrhydedd.
"Mae'r sgript yn un hynod o ddiddorol.
"Ges i'r fraint yn ddiweddar o fynd i Bontyberem a chwrdd â rhai o'r cast a'r bachgen sy'n chwarae fy rhan i. Oedden nhw'n dda iawn ac yn hynod frwdfrydig am yr holl beth.
"Mae hefyd yn bwysig o ran ei fod yn ffordd ddiddorol o gofnodi brwydr yr iaith dros yr holl flynyddoedd, ac mae yna hefyd frwdfrydedd o'r newydd o glywed yr hanes am y frwydr honno."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024