'Camwybodaeth ar-lein yn arwain at lai yn defnyddio dulliau atal cenhedlu'

Dr Helen Munroe
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Helen Munroe fod angen rhannu mwy o brofiadau positif o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Fe allai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn un o'r rhesymau pam fod llai o fenywod yn penderfynu defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd, yn ôl arbenigwyr.

Mae'r arweinydd clinigol ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru yn dweud y gallai camwybodaeth ar-lein arwain at lai o bobl yn defnyddio dulliau atal cenhedlu yn yr hirdymor.

Mae hyn yn cynnwys y bilsen, yr implant a dyfeisiau mewngroth, fel coil hormonaidd a chopr.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau yn newisiadau pobl gan ddweud ei fod yn "bwysig bod gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio o ffynonellau dibynadwy".

73% yn llai yn defnyddio pilsen

Dulliau atal cenhedlu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i atal beichiogrwydd heb ei gynllunio.

Er hyn, fe welodd clinigau iechyd rhyw a meddygon teulu yng Nghymru ostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC) gan gynnwys yr implant a'r coil. Mae'r ffigyrau yn is na'r ffigyrau uchaf erioed yn 2019.

Mae data sydd wedi ei weld gan BBC Wales Live yn dangos fod clinigau iechyd rhyw yng Nghymru wedi gweld gostyngiad o 73% yn y nifer sy'n cymryd y bilsen gyfun (combined pill) yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod gostyngiad o 8,531 yn 2019 i 2,233 yn 2023, tra bod Cymru wedi gweld y nifer uchaf o erthyliadau yn 2022.

Mae rhannu profiadau o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd ar gyfryngau cymdeithasol fel TikTok ac Instagram wedi dod yn hynod boblogaidd.

Mae menywod yn rhannu eu profiadau a'r sgil effeithiau y maen nhw wedi ei brofi - megis acne, newid mewn hwyliau a phwysau - yn y fideos yma.

Mae dros 27,000 o fideos ar Tiktok yn defnyddio'r hashnod #contraception - fel y gall pobl wylio fideos ar y pwnc yna.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dulliau atal cenhedlu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i atal beichiogrwydd heb ei gynllunio

Dywed Dr Helen Munroe, arweinydd clinig Rhwydwaith Iechyd Menywod Cymru, fod mwy o fenywod nag erioed yn holi cwestiynau am benderfyniadau atal cenhedlu.

"Mae menywod eisiau gwybod beth sy'n cael eu rhoi yn eu cyrff, sut 'neith e effeithio nhw, beth yw'r sgil effeithiau."

Er hyn, dywedodd: "Mae llawer o wybodaeth y maen nhw’n ei dderbyn yn dod o gyfryngau cymdeithasol a llefydd lle nad yw'r wybodaeth sy'n cael ei roi iddyn nhw yn gywir.

"Mae hyn yn golygu y gallen nhw ddod i gasgliadau anghywir am ddulliau atal cenhedlu."

Roedd o'r farn bod modd gwneud gwybodaeth sydd wedi ei selio ar dystiolaeth yn fwy hygyrch a bod pobl o fewn y maes yn "dechrau deffro i hynny".

"Dwi'n meddwl fod angen i ni fod yn well, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol, ar rannu profiadau positif o ddefnyddio gwahanol ddulliau atal cenhedlu."

'Arf hynod bwerus'

Mae Elin Barlett, myfyrwraig meddygaeth yng Nghaerdydd, yn cyflwyno podlediad 'Paid Ymddiheuro' gyda'i ffrind, sy'n trafod iechyd menywod yn agored.

Dywedodd fod y "cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn arf hynod bwerus i roi platfform i bobl rannu eu profiadau nhw".

Dywedodd mai pwrpas y podlediad "oedd rhoi platfform i bobl rannu eu profiadau am wahanol brofiadau iechyd gan gynnwys dulliau atal cenhedl".

Ond dywedodd eu bod yn pwysleisio "nad ffynhonnell o wybodaeth feddygol" yw'r podlediad; yn hytrach, cyfle i bobl "rannu eu profiadau er mwyn i bobl allu uniaethu gyda hynny ac wedyn sbarduno nhw i siarad efo'i meddyg teulu neu rywun proffesiynol o fewn y maes ar y pwnc".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Bartlett yn cyflwyno podlediad 'Paid Ymddiheuro' gyda'i ffrind sy'n trafod iechyd menywod

Dywedodd ei bod yn "sicr wedi gweld merched ifanc, a phobl yn gyffredinol yn cael eu hofni gan y pethau y maen nhw'n ei weld ar y gwefannau cymdeithasol".

Mae Elin, sy'n fyfyriwr meddygaeth, wedi penderfynu gwneud ymchwil pellach ar effaith y mae TikTok yn cael ar benderfyniadau menywod i ddefnyddio'r coil.

Dywedodd fod dewis dull atal cenhedlu yn "brofiad mor bersonol i bob unigolyn, mae pob menyw mor unigryw ac felly mae'r dewis o ddull angen bod yn unigryw i'r fenyw yna".

Dywedodd fod "camwybodaeth, pryder a'r ofn ar wefannau cymdeithasol" yn gallu effeithio ar benderfyniad unigolyn, "achos ella fydd gweld profiad negyddol rywun ar-lein yn rhoi chi off cael y dull yna, ac ella mai dyna oedd y dull i chi".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lily Lesh y bu'n rhaid iddi ddysgu am sgil effeithiau'r bilsen gan ei ffrindiau am nad oedd wedi derbyn gwybodaeth ddigonol

Dywedodd Lily Lesh, 25 o Gaerdydd, nad oedd hi wedi cael esboniad o holl sgil effeithiau'r bilsen, cyn iddi ei ddefnyddio yn 17 oed.

"Do'n i ddim wedi derbyn unrhyw wybodaeth amdano. Nes i jyst cael y bocs gyda phamffled enfawr y tu mewn iddo.

"Roedd yn rhaid i mi wneud fy ymchwil fy hun.

"Nes i ganfod mwy o wybodaeth yn bennaf gan fy ffrindiau a phobl arall ar y cyfryngau cymdeithasol."

Aeth ymlaen i ddweud fod clywed eraill yn rhannu eu profiadau yn "ddefnyddiol iawn i mi fel person ifanc oedd yn cychwyn siwrne ar ddull atal cenhedlu".

Ond dywedodd fod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu tynnu sylw at rai o'r achosion eithafol o'r sgil effeithiau.

"Mae'n hawdd cael braw o weld y straeon gwael," meddai Lily.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "cryfhau mynediad at wasanaethau rhywiol ac atgenhedlu yng Nghymru gan gynnig gwasanaethau ar-lein".

"Mae dysgu am atal cenhedlu o fewn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n orfodol, pan fo hyn yn briodol o ran datblygiad.

"Rydym yn ymwybodol o'r newid ym mhenderfyniadau pobl a defnydd dulliau atal cenhedlu ac rydym yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn deall a mynd i'r afael â'r ymddygiad ynghylch iechyd rhywiol y boblogaeth."

Pynciau cysylltiedig