Y siop trin gwallt cŵn sy'n brysurach nag erioed

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Katie Hughes Ellis

Yn ystod pandemig Covid roedd llawer o bobl wedi prynu cŵn bach am y tro cyntaf. Mae’r nifer o berchnogion ci wedi cynyddu ac erbyn hyn mae dros 13 miliwn o gŵn ym Mhrydain.

Oherwydd hynny mae’r galw am salonau cŵn wedi cynyddu. Un sydd wedi bod yn brysurach nag erioed yw Katie Hughes Ellis, sy’n berchen ar salon cŵn o’r enw Wild Hearts ym Mwllheli.

Bu Katie yn siarad am ei gwaith ar raglen Caryl ar Radio Cymru.

Agorodd Katie y salon saith mlynedd yn ôl ac mae’n rhan o siop anifeiliaid anwes ei theulu, sydd yn fusnes llwyddiannus ers 53 o flynyddoedd.

Dywedodd Katie: "Dwi bob tro wedi licio anifeiliaid ac oherwydd bod gyda ni’r siop anifeiliaid anwes roedd o’n rhywbeth ychwanegol oeddan ni’n gallu cynnig fel busnes teuluol."

Cychwyn

Mae’r siop wedi bod ar agor ym Mwllheli ers 53 o flynyddoedd, gyda rhieni Katie wedi cychwyn y busnes.

Meddai Katie: “Rydyn ni’n brysur iawn yma. Mae pawb efo cŵn ac mae’r galw i gadw nhw a rhoi y bwyd iawn iddi nhw yn fawr.

"Mae pawb efo’r cŵn yma sy’ angen torri gwallt yn aml fel cockapoos a cavapoos.

“Mae gen i colliepoo o’r enw Jet. Mae hi mwy fel collie na pwdl ond maen nhw gyd yn wahanol.

“Mae pob math efo pwdl ynddo fo angen lot o dorri gwallt. Cyrliog ydyn nhw i gyd ac mae rhai ychydig bach mwy cyrliog na’i gilydd. Maen nhw’n dod (i'r salon) yn aml.

“Maen nhw'n licio lot o fwythau, maen nhw’n gŵn lyfli ac yn hypoallergenic... dydyn nhw ddim yn colli blew.”

Ffynhonnell y llun, Katie Hughes Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Katie yn brysur yn y salon

Gofal

Mae Katie’n dweud fod rhai cŵn yn casáu mynd i dorri gwallt.

Meddai: “Mae ‘na rai sydd ddim yn meindio ac yn hapus ond mae rhai eraill ddim eisiau dod i mewn trwy’r drws.

“Dwi’n gadael iddyn nhw gael amser cyn dechrau. Ti’n cymryd mwy o amser efo nhw os maen nhw’n fwy anxious.

“Os ydy’r ci ddim yn hapus ti'n gadael llonydd iddi nhw.

“Ti’n cymryd y lead wrthyn nhw a gwneud beth maen nhw’n gyfforddus efo.”

Mae Katie’n dweud fod nifer o gŵn yn casáu sŵn y clippers. Ac mae cŵn sydd ddim yn dod yn aml yn fwy ofnus.

Meddai: “Dwi’n reit lwcus – mae’r rhai sy’n dod ataf i wedi arfer.

“Dwi wedi cael rhai yn disgyn i gysgu! Ti’n gweld llygaid nhw’n cau – maen nhw’n gweld o’n relaxing, fel ni yn mynd am treatment!

“Maen nhw’n dod ac yn cael bath, mae rhai angen torri gwallt, mae rhai angen brwsh da a ti’n torri ewinedd hefyd.”

Yn ôl Katie nid oes un brîd sy’n fwy anodd na bridiau eraill - mae’n dibynnu ar y ci.

Meddai: “Mae cŵn bach yn gallu bod ddim yn licio. Mae cŵn mwy ychydig yn fwy relaxed.

“Mae ci fel labrador – maen nhw’n selog ac yn gwneud beth bynnag.”

Mae Katie hefyd yn barod i helpu pobl sy’n berchen ar gi am y tro cyntaf: “Dwi’n meddwl mae cŵn yn lot o waith; maen nhw angen eu cerdded, maen nhw angen bwydydd gwahanol a mae rhai angen torri gwallt.

“Os ti ddim yn berson ci ac yn meddwl cael un, ti ddim yn sylweddoli faint o waith sydd. Dwi wedi tyfu fyny ar fferm bach felly wedi arfer efo anifeiliaid.

"Rydym ni’n ddigon hapus i helpu pobl ac ateb cwestiynau.”

Geirfa

Cŵn bach / puppies

Perchnogion ci / dog owners

Cynyddu / increase

Galw / demand

Salonau cŵn / dog salons

Prysurach / busier

Anifeiliaid anwes / pets

Llwyddiannus / successful

Ychwanegol / extra

Gwallt / hair

Cyrliog / curly

Mwythau / pamper

Casáu / hate

Gadael llonydd / leave alone

Cyfforddus / comfortable

Ofnus / scared

Ewinedd / nails

Brîd / breed

Dibynnu / depends

Selog / constant

Berchen ar / owns

Sylweddoli / realise

Pynciau cysylltiedig