'Roedd peidio gweld y mab am 15 wythnos yn ofnadwy'
- Cyhoeddwyd
"Fe fyddai e'n crïo ar y ffôn - 'mami dere i nôl fi'."
Dywed Dawn Cavanagh bod peidio gweld ei mab Jack am 15 wythnos yn y cyfnod clo cyntaf wedi bod yn "ofnadwy".
Mae Jack sy'n 18 oed ac sydd ag anableddau dysgu, epilepsi, awtistiaeth a chyflwr ADHD yn byw mewn cartref preswyl ac yn ystod y cyfnod clo dywed ei fam ei fod wedi mynd yn isel ei ysbryd ac wedi dechrau hunan-anafu.
Mae adroddiad newydd wedi canfod bod nifer o bobl sy'n byw gydag anabledd wedi teimlo eu bod wedi'u hamddifadu yn ystod y pandemig.
Yn ystod misoedd cyntaf yr haint yng Nghymru roedd 70% o'r rhai fu farw o Covid yn byw gydag anabledd.
Dywed awdur yr adroddiad, yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd, ei bod yn siomedig na fydd ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru wedi iddi glywed tystiolaeth "ofnadwy sy'n peri loes".
Doedd hi ddim yn bosib i Mrs Cavanagh, sy'n byw yn Hwlffordd yn Sir Benfro, ymweld â'r cartref preswyl arbenigol sydd dros 100 milltir i ffwrdd ym Mro Morgannwg.
"Fe gafodd y cyfan effaith andwyol ar iechyd meddwl a lles Jack," meddai.
"Yn aml fe fyddai'n llefain ar y ffôn ac yn dweud 'mami dere i nôl fi, dadi dere i nôl fi'.
"Ac yna fe ddechreuodd anafu ei hun, fe wnaeth ei ymddygiad waethygu, roedd e'n bryderus ac yn isel iawn. Roedd y cyfan yn ofnadwy.
"Roedd Jack yn gofyn i aelodau o staff 'A wnei di fod yn fam i fi? A wnei di fod yn dad i fi?'
"Doedd e wir ddim yn deall beth oedd yn digwydd na lle'r oedden. Doedd dim modd egluro iddo fe."
Mae Dawn yn credu bod pwysigrwydd cadw'r haint o dan reolaeth wedi effeithio ar hawliau dynol ac nad oedd y cydbwysedd a gafwyd gan y llywodraeth yn iawn ar gyfer pobl anabl.
"Un wers bendant o'r pandemig yw bod angen i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ddeall realiti bywydau pobl anabl ac ymgynghori â nhw," meddai.
Dywed yr Athro Foster na chafwyd ymgynghoriad pan gafodd penderfyniadau am bolisïau Covid eu gwneud.
"Doedd pobl anabl ddim yn rhan o'r trafodaethau, doedd yna ddim trafodaethau amdanyn nhw," meddai.
Fe wnaeth yr adroddiad ganfod fod:
Gwahaniaethu, llety gwael, tlodi, sefydliadu, diffyg PPE, gwasanaethau bylchog a gwybodaeth gyhoeddus ddryslyd oedd yn "gyfrifol i raddau" helaeth bod 68% o'r rhai fu farw yng Nghymru rhwng Mawrth a chanol Gorffennaf y llynedd yn bobl anabl - 59% oedd y nifer yn Lloegr;
Pobl anabl yn teimlo nad oedd "cymaint o werth" i'w bywydau yng nghymdeithas Cymru a'u bod wedi methu cael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau mamolaeth, meddygfeydd, llinellau ffôn argyfwng a gwybodaeth allweddol am y pandemig;
Nifer o bobl anabl yn ddryslyd, yn teimlo'n ddiymadferth, wedi'u hamddifadu, yn ofnus ac yn rhwystredig;
Pobl anabl a oedd yn byw ar ben eu hunain mewn sefydliadau yn hynod fregus;
Dim digon o ymgynghori wedi bod gyda phob anabl am effaith rheolau Covid ac felly eu bod yn teimlo wedi'u halltudio.
Mae 20% o boblogaeth Cymru yn byw gydag anableddau - lle mae iechyd gwael neu anabledd yn amharu ar eu bywyd bob dydd am oes neu am o leiaf 12 mis.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio hefyd at astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn nodi fod pobl sy'n byw gydag anableddau dysgu yn llawer mwy tebygol o farw o Covid nag eraill.
Dywed Anabledd Dysgu Cymru bod yr adroddiad yn "ddamniol" tra bod yr Athro Foster yn dweud bod yr ystadegau marwolaeth yn galw am ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.
"Ry'n wedi cael gwybod na fydd ymchwiliad annibynnol yng Nghymru gan bod y DU yn cynnal ymchwiliad," meddai.
"Mae hynny'n gwbl siomedig gan bod 68% o farwolaethau yn gysylltiedig â phobl anabl - a gan ei fod yn ystadegyn Cymreig fe fyddwn yn hoffi gweld ymchwiliad yng Nghymru."
Mae'r Athro Foster yn credu y gellid fod wedi atal rhai o'r diffygion ac er bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r materion, dywed bod yna "fwlch" o ran cydweithio gyda GIG Cymru, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus.
Ychwanegodd: "Os nad yw rhai lleisiau yn cael eu cynrychioli wrth lunio polisïau, dyw eu diddordebau na'r hyn sy'n allweddol bwysig iddyn nhw ddim yn cael ei gynnwys."
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn edrych ar effaith anghymesur Covid-19 ar bobl anabl a bod delio ag unrhyw anghydraddoldeb wrth wraidd unrhyw benderfyniad.
Mae'r llywodraeth wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol Covid-19: Cymru er mwyn rhoi cyngor i wneuthurwyr polisi, a dywedodd llefarydd eu bod hefyd yn ystyried pam bod pobl anabl yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi cyhoeddus.
"Ry'n wedi gweithio gyda grwpiau i bobl anabl gydol y pandemig er mwyn deall effaith yr haint ar eu bywydau," meddai.
"O ganlyniad, ry'n wedi gweithredu i leddfu unrhyw bryderon a godwyd yn yr adroddiad - gan gynnwys sefydlu tasglu i'w arwain gan weinidog er mwyn canfod beth arall sydd angen ei wneud i ddelio ag anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl anabl - anghydraddoldebau a waethygodd o ganlyniad i'r pandemig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021