Llwybr Clawdd Offa 'mor boblogaidd ag erioed'

  • Cyhoeddwyd
Clawdd Offa
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llwybr ei sefydlu, i fynd ar hyd rhannau o'r clawdd, yn 1971

Wrth i Lwybr Clawdd Offa ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant dywed swyddogion cefn gwlad bod y llwybr, sy'n ymestyn 177 milltir o Gas-gwent i Brestatyn, yn denu mwy o gerddwyr nag erioed.

Dros y penwythnos bu dathliadau arbennig i ddathlu sefydlu'r llwybr yn 1971 a phenderfynwyd codi arian i sicrhau gwaith cynnal a chadw.

Mae rhai yn pryderu nad yw ei gyflwr yr hyn a allai fod mewn mannau ac mae Cymdeithas Clawdd Offa wedi penderfynu sefydlu cronfa i sicrhau ei ddyfodol.

Mae'r llwybr yn mynd trwy wyth sir ac yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr 26 o weithiau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwybr yn ymestyn o Brestatyn yn y gogledd i Gas-gwent yn y de

Yn ôl Rhun Jones, swyddog cefn gwlad yn Sir Ddinbych, mae'r llwybr yn hynod o boblogaidd.

"Mae'n boblogaidd iawn," meddai. Mae gennym ni counters sy'n cyfri faint o bobl a 'den ni'n gwybod bo ni'n cael dros ugain mil yn cerdded ar hyd y llwybr yma bob blwyddyn o leiaf.

"Mae 'na lot o bobl ar feics hefyd yn defnyddio fan hyn... mae'n grêt bod yna gymaint o bobl yn dod allan i fwynhau o."

Cafodd Clawdd Offa ei godi yn yr wythfed ganrif a'i enwi ar ôl Offa, Brenin Mercia. Yr adeg honno roedd y clawdd yn dynodi'r ffin rhwng teyrnas Powys a Mercia ac o bosib yn amddiffyn Mercia rhag ymosodiadau gan y Cymry.

Bellach mae'r llwybr, sy'n dilyn rhannau o'r clawdd, yn cyfrannu'n helaeth i'r economi wledig mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sioned Humphreys, swyddog marchnata llwybrau cenedlaethol, ei bod yn falch o'r poblogrwydd diweddar

Mae Covid, medd swyddogion, wedi gwneud i fwy o bobl fynd allan i gerdded.

Dywed Sioned Humphreys, swyddog marchnata llwybrau cenedlaethol, ei bod yn falch o'r poblogrwydd diweddar.

"Den ni wedi gweld llawer mwy o ddiddordeb mewn cerdded yn y blynyddoedd diwetha' yn enwedig oherwydd y pandemig diweddar.

"Yn ystod yr hanner can mlynedd diwetha' mae yna welliannau mawr wedi bod yn y llwybr ei hun… mae llawer mwy o wybodaeth ar gael i gerddwyr a byddwn ni yn parhau i roi syniadau i bobl sut i gerdded y llwybr yn saff a gwneud yn siŵr fod pobl yn gwerthfawrogi y llwybrau yma."

Bydd arddangosfa o'r llwybr yn para yn Nhrefyclo tan fis Hydref.

Pynciau cysylltiedig