Lansio ap enwau lleoedd Cymraeg i gerddwyr Clawdd Offa

  • Cyhoeddwyd
ap TroFfynhonnell y llun, Mynyddoedd Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygiad yn rhan o'r weledigaeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl Eluned Morgan

Mae ap newydd yn cael ei lansio fydd yn galluogi pobl i ddod i wybod am enwau llefydd Cymraeg ar hyd rhannau o'r gogledd-ddwyrain.

Fe fydd yr ap, o'r enw Tro, hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth am leoliadau a hanesion o ddiddordeb wrth i bobl gerdded ar hyd rhan o lwybr Clawdd Offa.

Cafodd y rhaglen ei datblygu gan ymgyrch Mynyddoedd Pawb ar y cyd â sefydliadau eraill, fel rhan o ymdrechion i dynnu sylw at enwau lleoedd cynhenid.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan ei bod yn bwysig "sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio technoleg ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg".

'Cyfrannu at y miliwn'

Ar ôl ei lawrlwytho, pwrpas yr ap fydd gallu rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr sy'n cerdded ar hyd llwybr gogleddol Clawdd Offa, rhwng Prestatyn a'r Waun.

Wrth gerdded fe fydd y ffôn yn crynu ac yn rhoi gwybod pan mae'r defnyddiwr yn cyrraedd lleoliad ble mae enw arbennig, gyda phobl leol hefyd yn ynganu'r enw yn y Gymraeg.

Bydd yr ap hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth am rai o'r enwau a'r lleoliadau, yn ogystal â hanesion a chwedlau perthnasol.

Cafodd yr ap ei ddatblygu gan ymgyrch Mynyddoedd Pawb, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Chwmni Galactig, gyda chymorth hefyd gan y mentrau iaith lleol ac arbenigwyr enwau lleoedd.

Y gobaith, meddai'r datblygwyr, ydy "ysgogi diddordeb yn yr iaith Gymraeg, cynyddu ymdeimlad o berthyn o fewn cymunedau lleol, ac ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth ymwelwyr o gyfoeth ein treftadaeth leol".

Cafodd y prosiect arian grant gan Lywodraeth Cymru, ac wrth siarad cyn y lansiad dywedodd Ms Morgan fod y datblygiad yn rhan o'r weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni ei wneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd," meddai.

"Dyna pam mae sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio technoleg ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg mor hanfodol."