Cerddwr yn syrthio 100 troedfedd ar Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Llwybr Pyg Track a Chrib GochFfynhonnell y llun, Bill Boaden
Disgrifiad o’r llun,

Llwybr Pyg Track a Chrib Goch

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl syrthio 100 troedfedd wrth gerdded ar Yr Wyddfa.

Cafodd ei drin yn y lle cyntaf gan wirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd Llanberis ac aelod o griw hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Aeth y cerddwr i drafferthion gan syrthio mewn man ger Llwybr Pyg - y llwybr fwyaf heriol i gopa'r Wyddfa - a Llwybr y Mwynwyr.

Does dim manylion ynghylch cyflwr y dyn.

Roedd achubwyr eisoes hanner ffordd i fyny'r mynydd ble roedden nhw yn helpu cerddwr arall oedd wedi cael ei daro'n wael tua 07:10 fore Sadwrn pan ddaeth yr ail alwad am gymorth.

Pynciau cysylltiedig