Northants yn sicrhau gêm gyfartal yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Harry GouldstoneFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Harry Gouldstone oedd un o sêr yr ymwelwyr

Cyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Sir Northampton yng Nghaerdydd wedi perfformiad cadarn gan fatwyr yr ymwelwyr.

Roedd Morgannwg ar y blaen o 247 ar ddechrau'r diwrnod olaf, ac roedd Sir Northampton eisoes wedi colli dwy wiced.

Roedd hi'n edrych yn dda i'r Cymry pan darodd Michael Neser dair gwaith i Forgannwg.

Ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i oroesi'r diwrnod wrth i Rob Keogh (71 heb fod allan) a Harry Gouldstone (67 hfa) achub y dydd.

Fe wnaeth Sir Northampton orffen y gêm ar 250 am 5.

Pynciau cysylltiedig