Cwarantîn o hyd i bobl sy'n dychwelyd o Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Bydd teithwyr sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn Covid ac sy'n dychwelyd i Gymru a Lloegr o Ffrainc yn dal i orfod hunan-ynysu o ddydd Llun.
O 19 Gorffennaf, ni fydd angen i oedolion sydd wedi cael pigiad dwbl yn y DU sy'n cyrraedd o wledydd y rhestr ambr ynysu am 10 diwrnod.
Ond dywedodd Llywodraeth y DU na fyddai'r llacio yn berthnasol i Ffrainc oherwydd achosion "parhaus" o'r amrywiad Beta, a nodwyd gyntaf yn Ne Affrica.
Mae yna bryderon efallai na fydd brechlynnau'n gweithio cystal yn erbyn yr amrywiad Beta.
Roedd tua 3.4% o'r achosion a gofnodwyd yn Ffrainc yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf yn amrywiad Beta, yn ôl GISAID, cronfa ddata ffynhonnell agored fyd-eang.
Mae'r amrywiad Delta mwy heintus - a nodwyd gyntaf yn India - yn cyfrif am bron pob achos newydd yn y DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021