Pistyll Rheadr: Cynllun i atal 'anhrefn' traffig y llynedd

  • Cyhoeddwyd
TraffigFfynhonnell y llun, Marcin Michałek
Disgrifiad o’r llun,

Roedd anhrefn y llynedd ar ôl i geir gael eu parcio mewn mannau pasio, gan achosi tagfeydd traffig hir

Wrth i'r gwyliau haf ddechrau mae pobl sy'n byw yn agos i Bistyll Rhaeadr yng ngogledd Powys yn gobeithio am haf tawelach eleni.

Fis Awst y llynedd - ar ôl i gyfyngiadau'r cyfnod clo cyntaf gael eu llacio - heidiodd miloedd o ymwelwyr i'r ardal ger pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant i gael picnic ac i weld y rhaeadr enwog.

Ond mae'r rhaeadr ar ddiwedd ffordd gul sy'n bedair milltir o hyd - ac roedd anhrefn y llynedd ar ôl i geir gael eu parcio mewn mannau pasio, gan achosi tagfeydd traffig hir.

Dywedodd un ffermwr lleol iddo gymryd dwy awr a hanner i deithio milltir yn ystod mis Awst.

Ond yr haf hwn, mae pobl leol yn gobeithio na fydd pethau cynddrwg.

Mae Cyngor Powys wedi gosod arwyddion newydd yn y mannau pasio, mae posteri wedi'u codi hefyd yn gofyn i bobl feddwl cyn parcio, ac mae'r ffordd gul sy'n arwain at y pistyll wedi'i dynodi'n glirffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn heidio yn eu miloedd i weld y rhaeadr enwog yn ystod yr haf

Mae cartref Twm Morris tua milltir o'r rhaeadr - mae e wedi byw yn y cwm ers 60 mlynedd ac mae'n dweud nad yw erioed wedi gweld unrhyw beth fel tagfeydd y llynedd.

"Mi oedd hi'n ddifrifol iawn - mi ddechreuon nhw ddod yma, ac wedyn daeth chwaneg a chwaneg ac roedd y ffordd yma fan hyn wedi'i llenwi lawer i ddiwrnod," meddai.

"[Ro'n nhw'n parcio] yn y lle agosaf roedden nhw'n ffeindio.

"Ro'n nhw'n gadael y car a mynd - ro'n nhw'n dod lawr i'r buarth weithiau i barcio ac yn rhoi araith ofnadwy. Roedd pob sentence yn dechrau gyda 'ff' yn o lew!

"Dwi wedi bod yn y cwm hwn ers 60 o flynyddoedd a do'n i erioed wedi gweld y ffasiwn beth.

"Mi oedd yn deimlad annifyr ac roedden nhw'n dal i ddod. Roedd y police yn dda iawn ac roedd bechgyn lleol yn trio plismona, ond roedden nhw'n dal i ddod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Twm Morris ei fod "erioed wedi gweld" traffig fel y llynedd

Mae'r heddlu wedi gosod bolardiau wrth y fynedfa i fferm Mr Morris ac mae'n dweud bod pethau wedi bod yn well eleni, hyd yn hyn.

Mae maes parcio wrth droed y rhaeadr a chaffi yn ymyl sy'n perthyn i Phil Facey. Mae'n rhaid talu £5 i barcio yno yn ystod yr wythnos, ac mae'r ffi yn cynyddu i £10 ar benwythnosau.

Y llynedd, dywedodd Mr Facey na allai'r ardal ymdopi â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr o 1,000 i 3,000 y dydd.

Mae ffermwr lleol wedi agor un o'i gaeau ar gyfer parcio - hefyd am ffi - i geisio lleihau'r tagfeydd, ond dywed pobl leol fod yna deimlad o nerfusrwydd o hyd pan fydd gwyliau'r haf yn agosáu.

'Mae 'na bryder'

Mae Jo Moller, sy'n rhedeg busnes Simply Ribbons o'i chartref filltir a hanner o'r rhaeadr, yn un o'r rheiny sy'n poeni.

"Yn bendant, mae 'na bryder. Ry'ch chi'n gweld rhagolygon y tywydd ac yn gweld y bydd hi'n heulog, a gwyliau'r ysgol yn dod ac ry'n ni yn gorfod meddwl ynglŷn â sut ry'n ni'n cynllunio ein dyddiau, oherwydd dyw hi ddim mor hawdd mynd allan a mynd o gwmpas," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jo Moller o'r farn y byddai system o fonitro nifer y ceir sy'n mynd i fyny'r ffordd gul yn helpu i reoli llif y traffig

Dywed Ms Moller iddi orfod bacio car rhywun arall yn ôl ar hyd y ffordd gul y llynedd, gan nad oedd y gyrrwr yn medru gwneud ei hun, ac mae hi hefyd wedi cael ymwelwyr yn parcio yn ei gardd.

"Ry'n ni filltir a hanner o'r rhaeadr, a sawl gwaith ry'n ni wedi gweld y tagfeydd yn cyrraedd fan hyn," meddai.

"Mae gen i fusnes yma felly rhaid i ni gadw'r fynediad yn glir - felly ry'n ni wedi gorfod gosod rhwystr o flaen y lawnt oherwydd mae pobl wedi parcio yno.

"Ac unwaith mae un person yn parcio yno, maen nhw i gyd yn meddwl y gallan nhw barcio yno.

"Saith [car] dwi'n meddwl yw'r nifer fwyaf sy' wedi bod yma. Ond yn sicr mae tri neu bedwar yma'n rheolaidd, sydd ychydig yn ofidus mewn gwirionedd, oherwydd ein heiddo ni yw e.

"Fydden nhw ddim yn ei hoffi pe byddem ni'n parcio ar eu lawnt. "

Mae Ms Moller o'r farn y byddai system o fonitro nifer y ceir sy'n mynd i fyny'r ffordd gul o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn helpu i reoli llif y traffig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi gosod arwyddion yn y mannau pasio ac mae'r ffordd sy'n arwain at y pistyll wedi'i dynodi'n glirffordd

Y gobaith yw y bydd y newidiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Powys yn sicrhau na fydd yr un problemau traffig eleni â'r hyn welwyd y llynedd.

Yn ychwanegol at y dynodiad clirffordd ar y lôn gul a'r arwyddion newydd, bydd wardeiniaid y cyngor ar batrôl yn y cwm ar e-feiciau.

Dywedodd Aled Davies, dirprwy arweinydd Cyngor Powys a'r cynghorydd sir lleol: "Mae'r arwyddion newydd yn helpu a 'dan ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu, a hefyd mae'r swyddogion traffic enforcement wedi bod yna yn mynd i fyny a lawr y ffordd yn trio gwneud siŵr bod pawb yn cadw at y rheolau.

"Hefyd mae perchennog y caffi wrth y pistyll wedi gwneud mwy o le i barcio."

'Allan nhw ddim bod llawer gwaeth!'

Dywed y Cynghorydd Davies bod y swyddogion wedi defnyddio'r e-feiciau yn y cwm ar yr Ŵyl y Banc ddiwethaf.

"Roedd yn llwyddiannus iawn dwi'n meddwl, ac wrth gwrs mae'n amhosib i'r swyddogion wneud unrhyw beth os ydyn nhw mewn car ac yn stuck yn y canol," meddai.

"Gobeithio bydd pethau'n well [eleni] - allan nhw ddim bod llawer gwaeth a dweud y gwir!

"Ni eisiau i bobl ddod i aros yn yr ardal - yn y B&Bs a'r dafarn leol - ac aros am dair neu bedair noson.

"Dy'n ni ddim eisiau stopio pobl rhag dod i'r pistyll ond ar yr un pryd 'dan ni'n gorfod sicrhau bod pobl leol yn gallu mynd i fyny a lawr y ffordd yna heb eu bod nhw drwy'r amser mewn traffic jam."

Pynciau cysylltiedig