Nifer ymwelwyr atyniad poblogaidd yn gur pen i drigolion

  • Cyhoeddwyd
Pistyll Rhaeadr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed trigolion fod y nifer sy'n ymweld â'r safle wedi cynyddu i 3,000 bob diwrnod

Mae'r cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr i Bistyll Rhaeadr yn ystod cyfnod y pandemig yn achosi cur pen i drigolion Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys.

O ganlyniad bydd cyfarfod cyhoeddus ar gyfer hyd at 30 o bobl yn cael ei gynnal yng ngardd tafarn y Wynnstay yn y pentref am 16:00 ddydd Gwener.

Lonydd cul sy'n arwain at y pistyll, sy'n cael ei adnabod gan rai fel un o saith rhyfeddod Cymru, ond yn ôl trigolion dyw'r ffyrdd methu "dygymod gyda'r niferoedd".

Yn ystod haf arferol mae yna ryw 1,000 o bobl y dydd yn ymweld â Phistyll Rhaeadr ond ar hyn o bryd mae yna 3,000 yn ymweld yn ddyddiol.

Yn ôl Phil Facey, sy'n gwarchod Pistyll Rhaeadr ac yn cadw caffi yno, mae'r niferoedd yn andwyo'r safle gan adael llawer o sbwriel are eu holau.

"Dw'i wedi gorfod codi 40 o fagiau sbwriel du yn llawn i'r ymylon ar ôl i bobl adael sbwriel yma," meddai.

"Mae hwn yn safle sanctaidd ac mae'r holl bobol yn difetha'r lle ar y funud. Mae'r sefyllfa'n ridiculous.

Disgrifiad o’r llun,

Ffordd gul sy'n mynd drwy'r pentref cyn cyrraedd y pistyll

Mae Pistyll Rhaeadr rhyw bedair milltir o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, ar hyn lôn gul efo mannau pasio.

Yn ôl Aled Davies, cynghorydd sir lleol, mae pobl yn parcio mewn llefydd na ddylen nhw wneud.

'Mae'n anodd i'r Cyngor wneud unrhywbeth," meddai. "Mater o enforcement ydi o - yr heddlu sydd â chyfrifoldeb yma."

Disgrifiad o’r llun,

Y ffordd o'r pentre yn arwain i'r pistyll

Ffyrdd culion sydd trwy bentre' Llanrhaeadr y Mochnant hefyd a dywedodd y cigydd lleol, Mark Evans bod yn rhaid i rywbeth gael ei wneud.

"Mae ceir yn parcio fyny trwy'r pentref ma' bob dydd ers mis a hanner rwan," meddai.

"Mae 'na gridlock yma o 8:00 y bore tan 5:00 y pnawn ac mae hyn dydd Gwener, Sadwrn a Sul ac weithiau dydd Llun hefyd."