555 yn rhagor o achosion Covid a dim marwolaethau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw mewn masgFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 555 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'n golygu bod cyfanswm yr achosion yng Nghymru, hyd at 09:00 ddydd Llun, yn 232,672.

Doedd dim marwolaethau pellach sy'n golygu bod y cyfanswm, yn ôl dull ICC o gofnodi yn dal yn 5,589.

Gyda'u dull gwahanol o fesur y ffigyrau, 7,907 yw cyfanswm y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r haint yng Nghymru ers dechrau'r pandemig yn ôl datganiad wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yn wahanol i ICC, sydd ond yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai, mae'r ONS yn cofnodi marwolaethau lle mae Covid yn cael ei amau ​​neu ei gadarnhau a rhai mewn cartrefi gofal, hosbisau ac aelwydydd.

Roedd 189 o'r achosion diweddaraf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn y gogledd y mae'r cyfraddau uchaf o achosion dros saith niwrnod - Sir Ddinbych (460.8), Wrecsam (333.2), Conwy (332.8) a Sir Y Fflint (292.8).

Mae'r cyfraddau isaf yn Sir Gaerfyrddin (88.5), Sir Benfro (91.4) a Chastell-nedd Port Talbot (92.8).

Mae'r gyfradd achosion ar draws Cymru wedi codi eto i 185.8 i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae 2,282,992 o bobl wedi cael eu brechiad cyntaf ac mae 1,933,664 wedi cael y cwrs llawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cleifion sy'n cael prawf coronafeirws positif wedi cynyddu yn ysbytai Cymru i'r lefel uchaf ers dechrau Ebrill.

20 yw nifer y cleifion sy'n cael gofal critigol neu ar beiriant anadlu - y nifer uchaf ers 26 Mawrth, ond mae 87% yn llai na'r uchafbwynt ym mis Ionawr.

Mae nifer y cleifion gyda Covid mewn gwely ysbyty wedi codi i 87 ar gyfartaledd.

Ddydd Llun, roedd nifer y bobl oedd angen bod mewn ysbyty wedi cadarnhad neu amheuaeth eu bod â'r haint wedi cyrraedd cyfartaledd o 12 dros saith diwrnod - y lefel uchaf ers dechrau Mehefin.

Mae'r fath achosion bellach yn 1% o'r holl gleifion sydd angen cael eu cadw mewn ysbyty.

Mae'r niferoedd yn yr ysbyty bron i bum gwaith yn uwch nag yn ystod yr un adeg, wrth i gyfraddau achosion godi, nag yn ystod ail don y pandemig.

Ffynhonnell y llun, BBC

Mae datganiad wythnosol yr ONS yn amlygu tair marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 9 Gorffennaf - yr un nifer â'r wythnos flaenorol.

Cafodd y marwolaethau eu cofnodi mewn ysbytai yn Siroedd Dinbych, Wrecsam a Rhondda Cynon Taf - y cyntaf yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mewn chwe wythnos.

Ond mae hefyd yn dangos bod nifer y marwolaethau o bob cyflwr a salwch yn uwch na'r lefelau arferol.

Mae 'marwolaethau ychwanegol', sy'n cymharu nifer y marwolaethau sy'n cael eu cofrestru ar adeg benodol o'r flwyddyn dros gyfnod o flynyddoedd, wedi bod yn is na'r cyfartaledd pum mlynedd mewn 16 o'r 19 wythnos diwethaf.

Ond yn yr wythnos ddiweddaraf roedd yna 84 yn fwy o farwolaethau na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Cododd nifer y marwolaethau o bob salwch a chyflwr i 639 ar draws Cymru yn yr wythnos hyd at 9 Gorffennaf, gyda 0.5% yn crybwyll Covid ar y dystysgrif farwolaeth.

Cafodd patrwm tebyg ei gofnodi yn Lloegr a'r Alban, ac mae marwolaethau yn gysylltiedig â Covid ar gynnydd ymhob un o ranbarthau Lloegr.

Dywed ONS bod 49,486 o farwolaethau wedi eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, a bod 7,907 (16%) yn crybwyll Covid-19 ar y dystysgrif farwolaeth. Mae hynny'n 4,979 o farwolaethau'n fwy na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Yn y cyfamser, mae Arolygiaeth Gofal Cymru'n dweud bod yna "gynnydd cyson" yn achosion Covid ymhlith staff a phreswylwyr cartrefi gofal ers dechrau Mehefin.

Mae 40 o gartrefi wedi cofnodi o leiaf un achos yn y saith diwrnod diwethaf gyda AGC, ond dim marwolaethau'n gysylltiedig â phreswylwyr.

Dim ond tri awdurdod lleol oedd heb gofnodi unrhyw achos o gwbl. Fe gofnodwyd achosion o fewn pum cartref gofal yr un yn Sir Gaerfyrddin a Sir Ddinbych.