Cam-drin arlein: 'Targed oherwydd mod i'n ddynes'

  • Cyhoeddwyd
Bethan Sayed a Llinos Medi Huws

"Pan mae'r heddlu'n eistedd yn eich ystafell fyw chi ac yn cyfeirio at ddigwyddiad Jo Cox, chi'n sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa."

Mae ymosodiadau geiriol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi denu cryn sylw yn ddiweddar yn dilyn perfformiad Lloegr yn ffeinal yr Euros.

Mae 200 o fenywod dylanwadol gan gynnwys cyn Brif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, wedi ysgrifennu llythyr agored yn gofyn am gamau pendant i fynd i'r afael â'r sylwadau cas mae nifer o fenywod yn eu derbyn ar y platfformau cymdeithasol.

Dwy sydd wedi derbyn negeseuon annymunol yn y gorffennol ydy arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi Huws, a chyn aelod o Senedd Cymru, Bethan Sayed.

Bu'r dwy yn rhannu eu profiadau mewn sgwrs gyda Vaughan Roderick ar Dros Ginio.

Dyma stori Llinos Medi Huws o beth ddigwyddodd ar ôl iddi gychwyn derbyn ebyst cas:

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Medi Huws, Arweinydd Cyngor Môn

Pan 'da chi'n mynd mewn i fywyd cyhoeddus, mae pawb yn dweud fod disgwyl i chdi gael dy herio a chael sylwadau negyddol. Pan gyrhaeddodd yr ebyst, mi oedden nhw'n arswydus ac oeddwn i ddim yn siŵr iawn pa mor ddifrifol oeddwn i fod i gymryd nhw.

Pan cafodd yr ebyst eu rhannu gyda'r heddlu a wedyn yr heddlu'n dod yma, mi oedd delio efo'r cyfnod yna yn byw fy mywyd fel mam sengl, yn her o ran gwybod fod gynna'i rôl rŵan o ran diogelu fy mhlant.

Heddlu

'Nath yr heddlu a'r gwasanaeth tân ddod yma er mwyn mynd o gwmpas y tŷ i ddiogelu'r tŷ ac mi wnaethon nhw roi marker ar y tŷ fel fod unrhyw alwad yn dod o 'ma yn alwad brys. 'Oeddan nhw'n gwybod beth oedd yr amgylchiadau.

Plant ifanc

'Nes i benderfynu bod fi ddim am rhannu efo nhw (y plant) ond mi nes i rannu efo nhw bod rhaid i ni gymryd i ystyriaeth materion diogelwch rownd y cartref a'n bod ni'n dysgu am bethau fel allanfa dân fel oeddan nhw'n neud yn yr ysgol achos cartref nhw yw fam 'ma, maen nhw angen teimlo'n saff.

A 'nes i gymaint a fedrwn i i ddiogelu nhw.

Targed

Dywedodd yr heddlu mod i'n darged oherwydd mod i'n ddynes - ac yn ddynes sengl, oeddan nhw'n dweud hefyd.

Mae'n her i rhywun fath a fi sy' eisiau denu merched i fewn i fywyd cyhoeddus a 'da ni eisiau gweld mwy o ferched yn cael lleisio barn eu cymuned nhw. A 'da ni angen eu diogelu nhw hefyd a dyna yw'r her.

Atal ffugenwau

Mae platfform fel hyn yn blatfform iach i gael trafodaethau aeddfed - mae'n rhaid i ni roi y camau diogelwch yma bod pobl ddim yn cael cuddio tu ôl y ffugenwau yma.

Fel mam dwi wedi dysgu 'mhlant bod rhaid iddyn nhw feddwl o ddifri cyn iddyn nhw roi dim byd i fyny ar y cyfryngau. Buasen nhw'n barod i roi hynny fyny yn ffenest yr ystafell fyw a bod e yna am byth? Ac os ydy chi ddim, peidiwch a rhoi e fyny arlein.

Mae'n rhaid i bobl feddwl o ddifri beth yw eu bwriadau nhw wrth ymddwyn yn y ffordd maen nhw'n ymddwyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Bethan Sayed wedi profi bygythiadau ar-lein ac hefyd dyn yn ymddwyn yn fygythiol tuag ati mewn cyfarfodydd cyhoeddus:

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Sayed

Dyma'r realiti i fenywod ym myd gwleidyddiaeth. 'Nes i gael bygythiad arlein ac un person oedd yn eitha' intimidating mewn cyfarfodydd cyhoeddus.

Gyda'r bygythiad arlein es i i'r heddlu ond 'naethon nhw ddweud nad oedden nhw'n gweld e fel bygythiad.

Y neges oedd 'I'm going to come down to Cardiff Bay and do something that I regret'.

A 'nes i weld hwnna fel bygythiad ond roedd y plismon wedi dweud, 'we don't interpret it that way' ac oedden i'n teimlo bod hyn bach yn hy a bod nhw ddim yn deall y sefyllfa.

O'n i'n berson sengl yn byw ar ben fy hun felly roedd yn wahanol i fi o ran bod fi'n teimlo mod i ar ben fy hun a falle bydde rhywun yn dod i'r tŷ.

Roedd hyn cyn Jo Cox a dwi'n credu nawr fydden nhw'n cymryd e mwy o ddifri.

Disgrifiad o’r llun,

Jo Cox, Aelod Seneddol Batley and Spen a chafodd ei lladd yn 2016

Roedd y bygythiad arall yn ddyn oedd yn gweiddi arna'i bob tro oe'n i'n mynd i gyfarfod cyhoeddus ac yn dilyn fi mas. Oe'n i'n gorfod ffonio pobl i sicrhau mod i'n cyrraedd y car yn saff.

'Nes i ddim cysylltu gyda unrhyw un ar y pryd achos ar ôl y cyfnod cyntaf oen i'n meddwl, beth yw'r pwynt?

Does neb yn mynd i helpu fi felly does dim pwynt cysylltu gyda'r heddlu.

Ymateb yr heddlu

Roedd yn sioc i'r system achos roedd y dyn yma wedi bod yn ffonio'r swyddfa yn weddol aml ac wedi bod yn ffonio staff ac oen i'n gorfod ymdrin â staff yn delio gyda fe. Felly doedd e ddim yn one-off.

Maen nhw'n cymryd e'n fwy difrifol nawr ond dyle hyn ddim fod yn digwydd i unrhyw un.

Gweithredu

Mae 'na bil diogelwch arlein yn mynd trwyddo ar hyn o bryd ond mae nifer o bobl high profile yn y byd cerddoriaeth ee Nicola Roberts gynt o Girls Aloud, yn dweud nad yw e'n mynd yn ddigon pell.

Maen nhw'n gallu monitro a stopio pobl rhag ymosod ar bobl eraill ond dyw nhw ddim yn stopio'r bobl hynny rhag dechrau cyfrif newydd. Mae Nicola Roberts yn dweud dyw hynny ddim digon da, mae angen i'r person hynny gael eu taflu o'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfan gwbl i ddysgu gwers i nhw.

Yn achos Leanne Wood mae hi wedi mynd â bobl i'r llys am yr hyn mae hi wedi derbyn.

Mae angen neud lot, lot mwy ac mae trydar, facebook ayyb angen cymryd mwy o gyfrifoldeb i edrych ar ôl pobl - lleiafrifoedd ethnig, menywod, pwy bynnag sy'n derbyn yr ymosodiadau - er mwyn i ni deimlo fod e'n le saff ac yn rhywle ni'n gallu mwynhau cael trafodaethau gwleidyddol.

Hyd nes bod hynny'n digwydd mae'r we yn rhywle ni ddim yn gallu mwynhau bod.

Gwrandewch ar y drafodaeth ar Dros Ginio gyda Vaughan Roderick

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig