Rheoli ymddygiad: 'Byw ar bigau'r drain'

  • Cyhoeddwyd
Menyw'n edrych allan drwy'r ffenestrFfynhonnell y llun, Getty Images

"Pan ti yn y berthynas ti'n meddwl am beth sy'n mynd i blesio'r person yma a beth sy'n mynd i ypsetio nhw o hyd. Ti'n newid dy holl fywyd i blesio nhw heb feddwl amdano ti a beth ti eisiau."

Roedd rheoli ymddygiad, aflonyddu a stelcio'n rhan o fywyd Mared* tan iddi lwyddo i adael ei phartner Dylan* ar ôl colli ei gyrfa, ei chartref a'i hunan-hyder. Yma mae hi'n edrych nôl ar ddatblygiad y berthynas a sut wnaeth hi lwyddo i ddianc yn y diwedd.

*Mae enwau wedi cael eu newid. Gallai peth o'r cynnwys beri gofid.

Y dechrau

Yn ddiddorol o'n i ddim yn hoff iawn o Dylan y tro cynta' i ni gyfarfod ac yn meddwl fod e'n rhy slick ac intense.

O'r dêt cyntaf ymlaen roedden ni gyda'n gilydd trwy'r amser. Roedd hynny'n anarferol achos dwi'n berson annibynnol ac yn mwynhau cwmni fy hun.

'Oedd gyda ni sawl peth yn gyffredin ac roedden ni yn yr un fath o le o ran beth oedden ni eisiau mewn bywyd a gyrfa.

Roedd e'n llawn hwyl a chyffro ar y dechre, yn canmol fi drwy'r amser ac yn prynu prydau mawr, gwin neis a blodau bob wythnos.

'Oedd hwn yn ddi-baid a doedd dim amser i brosesu'r berthynas ac i ofyn os oedd rhywbeth tu ôl iddo.

Yn gynnar iawn hefyd o'n i wedi cwrdd â'i rieni ac o fewn wythnosau o'n i'n teimlo fel rhan o'r teulu.

Newid bywyd

Roedd fy holl ffordd o fyw wedi newid yn gyflym iawn - ond 'nes i ddim sylwi ar hynny, o'n i'n hapus ac yn meddwl fod y person yma'n ddeallus a'n soffistigedig, yn cwympo mewn cariad â fi ac yn gofalu amdana'i.

Dwi'n gwybod nawr ei fod wedi gwneud yr un math o beth gyda merched eraill - hyd yn oed mynd â ni ar yr un gwyliau ac i'r un llefydd. Falle yn ei ben e 'oedd e'n meddwl bod e mewn cariad ond dwi ddim yn meddwl ei fod yn gallu caru rhywun - mae e jest yn adlewyrchu beth ti'n teimlo yn ôl atat ti.

Y faner goch cyntaf

Yn yr wythnos gyntaf o'n i yn y cawod a daeth e mewn i'r stafell molchi a dweud mod i angen colli pwysau gan bwyntio at le ar fy nghorff. 'Nes i chwerthin achos o'n i'n meddwl bod e'n jocan - ond oedd e'n hollol ddifrifol. O'n i'n teimlo'n annifyr ond methu esbonio pam.

Yn fuan wedyn 'nath e o n'unlle golli ei dymer yn y car ac o'n i bron wedi agor y drws a neidio o'r car achos 'oedd cymaint o ofn arna'i.

'Oedd hwnna yn faner goch arall achos daeth y tymer o n'unlle.

Un tro 'oedd e'n grac gyda fi achos mod i heb ateb y ffôn pan oedd wedi ffonio. Daeth i'r tŷ ac eistedd ar fy soffa a jest syllu arna'i heb ddweud gair am o leia' hanner awr. Y munud nes i gychwyn crio 'nath e ddechrau siarad gyda fi ac esbonio pam oedd e'n grac.

Wedyn 'nath e sioe mawr yn rhoi anrheg hyfryd i fi. Un munud ti'n ypset a ddim yn deall beth sy'n mynd ymlaen, y munud nesaf mae'n rhoi'r holl gariad yma i ti.

Ti'n hollol confused mewn ffordd ond ti'n parcio fe a'n anghofio amdano fe.

Yn gynnar iawn yn y berthynas 'oedd e'n mynd â fi i'r gwaith a chodi fi o'r gwaith er fod gen i gar - os o'n i munudau yn hwyr roedd yn grac iawn, yn ffonio fi neu'r swyddfa neu fy mos.

O'n i'n nerfus ac yn poeni am ei ymateb e i bethau o hyd.

Pan o'n i'n mynd allan 'da ffrindiau 'oedd e'n troi fyny gan ddweud fod e'n methu fi. Roedd e unai'n dadlau gyda ffrindiau fi neu yn dweud ar ôl i ni fynd adre fod e ddim yn hoffi nhw.

Datblygiad y berthynas

O'n i'n pellhau o bawb so oedd e jest fi, fe a'i deulu. O'n i'n gwylio beth o'n i'n gwisgo a dweud ac o'n i'n ofalus pwy o'n i'n siarad gyda o'i flaen e - doedd e ddim yn hoffi fi'n siarad gyda dynion ac yn cyhuddo fi o fflirtan gyda nhw.

Yn ara' deg ti'n newid a newid. Roedd y pethau o'n i'n hoffi ac oedd yn bwysig i fi yn 'pathetic'.

Yn sydyn iawn roedd wedi mynd â calon fy mhersonoliaeth, yr holl bethau oedd yn bwysig ac yn siapio fi. Yn dawel iawn ti'n pellhau dy hun o dy hun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beichiogrwydd

'Nes i gwympo'n feichiog ac 'oedd e'n hapus am hynny. Ond y diwrnod des i â'r babi adre 'nath e hollol newid.

Ar ôl hynny doedd dim enw gyda fi, roedd e'n galw fi'n enwau ofnadwy fel slut a slag ac yn dod lan â hen hanes o'n i wedi rhannu gyda fe - perthnasau eraill ac yn dweud 'ti wedi bod gyda cymaint o ddynion'.

Chi ddim yn ymwybodol bod chi ar bigau'r drain o hyd achos mae hyn wedi dod yn normal.

O'n i di colli'r holl bwysau ar ôl bod yn feichiog mewn pythefnos, colli 2.5 stôn, ac wedyn es i lawr i chwech stôn a hanner.

Erbyn hyn roedd e'n dweud mod i'n berson budr ac 'oedd e'n dinistrio pethau yn y tŷ. 'Oedd e'n mynd am oriau ac o'n i ddim yn gwybod ble oedd e.

Popeth o'n i'n neud fel mam, oedd e'n rong.

Gadael

Erbyn i fy mhlentyn ddod at flwydd oed o'n i jest ishe iddo fynd, o'n i'n casáu'r boi.

Y peth wnaeth ysbarduno fi i ofyn iddo adael oedd fod e'n galw fi'n enwau drwy'r amser. O'n i'n meddwl, mae fy mabi'n mynd i feddwl taw dyna yw fy enw i - nid Mam ond slut.

Dyna'r unig beth yn fy mhen - fi'n methu magu plentyn gyda hynna'n digwydd.

'Nath e adael er fod e ddim eisiau. Wedyn 'nath pethau fynd yn waeth ac allan o reolaeth - oedd e'n stalkio'r tŷ a ffonio'r heddlu i ddweud bod fi'n suicide risk ac oedd yr heddlu'n troi lan bob awr o'r dydd a'r nos.

Dechreuodd e fygwth mynd â'r babi. Hynny oedd y peth gwaethaf i fi.

Achos o'n i erbyn hyn mor isel, o'n i'n meddwl dwi'n mynd i golli'r babi, a dyna'r unig beth oedd yn poeni fi, doedd dim byd arall yn fy modolaeth.

Mae e'r math o berson sy'n gwneud beth mae e'n dweud fod e'n mynd i wneud. Os mae e'n bygwth rhywbeth mae e'n dilyn gyda'r bygythiad.

O'n i dal ddim eisiau derbyn fod fi'n dioddef trais yn y cartref a fod rhywun wedi gwneud hyn i fi.

Gweld y gwir

Erbyn hyn roedd pethau wedi gwaethygu - 'oedd e'n mynd â fy merch allan o'r ysgol pan oedd e ddim fod ac roedd yr heddlu wedi dod.

Roedd un digwyddiad pan aeth fy mhlentyn yn sâl ac roedd e wedi bygwth y meddyg felly 'nath y meddyg sylweddoli fod problem. A 'nath e ffonio Cymorth i Ferched Cymru, dolen allanol yn yr ardal.

'Nes i raglen Freedom gyda Cymorth i Ferched Cymru, sy'n rhaglen 12 wythnos a ti'n ffocysu ar bersonoliaeth y person treisgar, sef y dominator.

Fel o'n i'n neud y cwrs, 'oedd e fel bylb golau yn mynd arno.

Dyna'r tro cyntaf nes i ddechrau deall beth oedd wedi digwydd i fi. 'Oedd e 'di bod yn manipiwleiddio fi a gaslightio fi i'r pwynt lle o'n i ddim yn gwybod pwy o'n i bellach.

Mae'n 10 mlynedd ers hynny a dwi wedi adeiladu bywyd newydd. Dwi nawr wedi cael hyfforddiant i redeg rhaglen Freedom - roedd hynny'n fuddugoliaeth enfawr i fi ac wedi helpu fi i ffocysu fy mhoen a fy nicter a siom mewn i helpu menywod eraill.

Dwi ddim ishe gweld unrhyw menyw yn mynd trwy hyn a colli beth 'dw i wedi colli.

Mewn un ffordd mae 'na lot o fuddugoliaethau ond dwi'n gweld e'n anodd gweithio mewn tîm bellach felly dwi'n gweithio ar liwt fy hun. Os mae rhywun efo personoliaeth sy' eitha' tebyg iddo fe neu os oes deinamig penodol yn y tîm, dwi ddim yn delio gyda hynny'n dda iawn. Ac mae'n gallu mynd â fi nôl, mae'n trigger.

Dwi wedi gorfod newid unrhyw freuddwydion oedd gyda fi - ac wedi gorfod meddwl am llesiant fy hun a fy mhlentyn a chael gyrfa hollol wahanol.

Dwi wedi colli popeth ond dwi dal yma. Mae'r pethau dwi eisiau mewn bywyd yn hollol wahanol nawr ond mae golau ar y gorwel.

Cyngor

Gwrandwch ar y gut feeling

O'n i'n gwybod yr wythnos gyntaf pan 'nath e feirniadu fy nghorff fod y teimlad tu fewn yn anghysurus. A dylwn i wedi gwrando ar hynny.

Y llais yna yw'r gwirionedd ac mae'n rhaid bod yn ddewr a gwrando arno - ac mae hynny'n anodd achos ni gyd eisiau cael ein caru.

Siaradwch â rhywun os mae'n ddiogel

Y munud ti'n gadael yw'r adeg mwya' peryglus. Mae angen cael amser i feddwl yn ofalus ac yna dechrau estyn allan pan mae'n ddiogel i wneud hynny.

Mae 'na help ond mae'n lwybr hir

Y munud chi'n gadael 'dyw pethau ddim yn mynd i fod yn hyfryd, mae'n mynd i fod yn anodd - ond mae'n llawer gwell na byw gyda rhywun sy'n 'neud pethau ofnadwy a chreulon.

Mae gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth domestig ar draws Cymru yn parhau yn ystod cyfnod COVID-19. Mae gan ddioddefwyr hawl i adael cartref i geisio cymorth mewn lloches er gwaethaf y cyfyngiadau ac mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, dolen allanol ar gael i bawb 24/7.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig