Honiadau o fwlio hiliol yn academi CPD Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood | Getty Images

Mae teulu plentyn sy'n honni ei fod wedi dioddef bwlio hiliol yn Academi Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dweud eu bod yn bryderus nad yw'r clwb yn trin yr honiadau'n ddigon difrifol.

Dywedodd y bachgen, sydd â thad Arabaidd, bod y digwyddiad gwaethaf ar fws mini ble cafodd bananas eu taflu tuag ato, a'i ffrind sy'n ddu, gan gyd-chwaraewyr.

Y gred yw bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA) yn ymchwilio i honiadau o ymddygiad gwahaniaethol o fewn Clwb Pêl-droed Caerdydd.

Dywedodd y clwb bod ganddyn nhw bolisi o ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth, a'u bod yn parhau i ymchwilio i'r mater, ac yn cydweithio'n llawn gyda Chymdeithas Bel-droed Lloegr.

'Enwau sarhaus a thaflu bananas'

Honnodd y pêl-droediwr ifanc iddo a'i ffrind gael eu targedu gan grŵp bach o blant ar fws mini gyda phedwar aelod o staff yn bresennol ar y pryd.

Er ei fod wedi ceisio egluro i aelod o staff beth ddigwyddodd, mae'n honni bod un ohonyn nhw wedi dweud wrtho am glirio llanast y bananas ar y bws.

Mae'r bachgen, sydd yn ei arddegau, bellach wedi gadael y clwb, a honnodd wrth BBC Cymru ei fod wedi dioddef camdriniaeth bellach gan gyd-chwaraewyr oedd yn ei alw'n enwau sarhaus, gan gynnwys "Arab drewllyd".

Roeddent hefyd yn gofyn iddo yn aml os oedd ganddo fom yn ei fag, meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llanc ei fod yn uniaethu gyda chwaraewyr Lloegr a gafodd eu cam-drin ar ôl Euro 2020

Dywedodd ei fod yn uniaethu â sêr pêl-droed Lloegr a ddioddefodd gamdriniaeth hiliol ar-lein yn dilyn colli yn rownd derfynol Euro 2020.

"Es i drwy hynny, rwy'n teimlo fel roedden nhw'n teimlo."

Dywedodd teulu'r bachgen fod y profiad wedi effeithio arnyn nhw i gyd.

"Mi ddaeth yn flin, yn anghymdeithasol, yn dadlau gyda ni... Pob tro roedd o'n mynd ar drip, roedd gen i bryder ofnadwy yn meddwl beth fyddai'n digwydd nesaf," meddai perthynas iddo.

'Mewn dagrau'

Dywedodd y teulu mai dim ond ar ôl cyfweliad ar-lein gydag ymchwilwyr yr FA wnaeth y bachgen ddweud wrthyn nhw am y gamdriniaeth hiliol.

Roedd hyn wedi iddyn nhw a rhieni eraill gwyno am fwlio yn yr academi.

"Mi wnaethon ni dorri lawr mewn dagrau," medden nhw. Maen nhw wedi galw am weithredu ar unwaith.

"Mae angen newid, pan dy' chi'n rhoi eich plentyn mewn academi rydych chi'n disgwyl iddyn nhw eu trin fel mae rhieni'n gwneud... i ofalu amdanyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mewn ebost ym mis Ionawr eleni, a gafodd ei anfon at yr FA a'r clwb, mae sawl rhiant yn rhoi manylion am gamdriniaeth a bwlio honedig.

Ym mis Mawrth eleni, cadarnhaodd y clwb bod dau aelod o staff yr academi wedi eu gwahardd dros dro yn sgil yr honiadau.

Mae'r teulu wedi derbyn cefnogaeth gan y grŵp annibynnol PlayersNet. Dywedodd y cyfarwyddwr a chyn-aelod o staff gyda chlwb Manchester City, Pete Lowe, bod y teulu wedi troi ato yn gynharach eleni.

"Dwi wir yn meddwl mai dyma un o'r pethau gwaethaf dwi wedi clywed amdano yn y gêm," meddai.

"Os ydy awdurdodau'r wlad o ddifri' am gael gwared ar hiliaeth... yna mae'n rhaid trin pethau fel hyn yn ddifrifol iawn."

Ymchwilio i'r digwyddiad

Mewn datganiad dywedodd CPD Dinas Caerdydd: "Nid yw'n briodol inni wneud sylw manwl oherwydd amgylchiadau cymhleth tu hwnt yn ymwneud â'r ymchwiliad a'r honiadau a wnaed.

"Nid oes unrhyw hyfforddwyr na staff yn rhan o'r ymchwiliad, ar wahân i roi tystiolaeth os gelwir arnynt i wneud hynny, ac mae'n ymwneud ag ymadweithiau rhwng chwaraewyr oedd yn 10 neu 11 oed ar y pryd.

"Rydym yn cydweithio'n llawn gydag adran gydseinio yr FA.

"Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at hiliaeth ac mae goddefiad cymdeithasol yn rhan allweddol o'n rhaglenni addysgiadol.

"Byddwn yn gwneud datganiad pellach pan fydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau."