Morgannwg yn trechu Sir Warwig yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Kiran CarlsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kiran Carlson oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda chyfanswm o 60

Fe lwyddodd Morgannwg i drechu Sir Warwig mewn gêm agos iawn i ddechrau eu hymgyrch yn y Cwpan Undydd yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Fe wnaeth Sir Warwig osod cyfanswm o 221 ar ôl cael eu bowlio allan yn eu pelawd olaf, gyda'r capten Michael Burgess yn sgorio 73 o'r rhediadau hynny.

Llwyddodd Morgannwg i ymateb yn dda, gyda Kiran Carlson (60) a Billy Root (50) yn serennu gyda'r bat, ond roedd y gêm yn dal yn y fantol gyda phelawd yn unig i fynd ac wyth batiwr eisoes wedi colli eu wiced.

Roedd Morgannwg angen pum rhediad o'r belawd olaf, ac fe lwyddon nhw i basio cyfanswm yr ymwelwyr gyda dwy bêl yn unig yn weddill er mwyn ennill o ddwy wiced.

Pynciau cysylltiedig