Wyn Jones allan o dîm y Llewod gydag anaf i'w ysgwydd

  • Cyhoeddwyd
Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fydd Wyn Jones ddim yn chwarae yn erbyn De Affrica ym mhrawf cyntaf y Llewod heno wedi iddo anafu ei ysgwydd.

Roedd disgwyl i'r prop 29 oed o Lanymddyfri ennill ei gap cyntaf dros y Llewod ddydd Sadwrn, tan iddo anafu ei ysgwydd yn ymarfer ddydd Iau.

Mae'n debyg nad yw'n anaf difrifol, ond yn y cyfamser bydd yr Albanwr Rory Sutherland yn cymryd ei le yn y tîm, gyda'r Sais Mako Vunipola ar y fainc.

"Rydyn ni'n hyderus y bydd e 'nôl ym ymarfer wythnos nesa', a does dim cynlluniau i alw unrhyw un arall lan," meddai'r prif hyfforddwr Warren Gatland.

Mae'n golygu mai dim ond dau Gymro sydd bellach yn y pymtheg i wynebu'r Springboks - Alun Wyn Jones a Dan Biggar - gyda dau arall, Ken Owens a Liam Williams, ar y fainc.

Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae dros y Llewod lai na phedair wythnos wedi iddo orfod tynnu yn ôl o'r daith ar ôl datgymalu ei ysgwydd.

Cyn y gem bu tipyn o sylw i'r ffaith mai Marius Jonker o Dde Affrica fydd y dyfarnwr teledu ar gyfer y gêm nad oedd modd i Brendon Pickerill o Seland Newydd deithio yn sgil cyfyngiadau Covid.

Fe wnaeth hynny gorddi Warren Gatland, ac fe gyfaddefodd hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde ei fod yn sefyllfa anffodus.

"Roedd yn annisgwyl i ni, dim ond ddydd Mercher 'naethon ni glywed," meddai. "Mae yna rywfaint o ddiffyg paratoi gan y trefnwyr oherwydd mae 'na reswm pam mae'r rôl yna'n niwtral, ond rhaid i ni fwrw ymlaen ac anghofio am hynny."

Gallwch wrando ar sylwebaeth o'r prawf cyntaf rhwng De Affrica a'r Llewod yn fyw ar BBC Radio Cymru, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 16:30 ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig