Arestio dyn arall wedi ymosodiad mewn parc yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn arall wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd ble cafodd dyn ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd y parc yng nghanol y ddinas ei gau am gyfnod fore Mawrth yn dilyn yr ymosodiad wrth y mynediad ger Gerddi Soffia.
Mae dyn 54 oed yn parhau i fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru mewn cyflwr all beryglu ei fywyd.
Roedd Heddlu'r De eisoes wedi arestio dyn 25 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.
Cafodd dynes oedd hefyd wedi ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ei rhyddhau heb gyhuddiad.
Ddydd Gwener cafodd dyn 36 oed o Gaerdydd hefyd ei arestio, a hynny ar amheuaeth o geisio llofruddio, treisio a lladrata.
Mae yntau'n parhau yn y ddalfa ac mae'r heddlu wedi apelio eto ar unrhyw un allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
"Roedd hwn yn ymosodiad estynedig a ffyrnig sydd wedi gadael dyn yn ddifrifol wael yn yr ysbyty, ac yn amlwg wedi achosi pryder i'r gymuned leol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea.