The Hundred: Dynion Tân Cymreig yn ennill ond merched yn colli

  • Cyhoeddwyd
Jake BallFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gadwodd Jake Ball ei nerfau ym mhelawd olaf yr ornest

Fe enillodd Tân Cymreig eu gornest gyntaf yng nghystadleuaeth The Hundred ar ôl trechu'r Northern Superchargers ym mhelawd olaf y gêm.

Roedd y Superchargers angen 11 rhediad o'r pum pêl olaf, ond llwyddodd y bowliwr Jake Ball i'w dal yn ôl a sicrhau buddugoliaeth o bum rhediad.

Yn gynharach roedd Tân Cymreig wedi gosod targed o 174, gyda Jonny Bairstow yn sgorio 56 rhediad a Ben Duckett yn cael 41.

Mewn ymateb dim ond pum rhediad gafodd seren y Superchargers, Ben Stokes, gyda Harry Brook yn brif sgoriwr ar 61 cyn dod yn un o bedwar wiced i gael eu cymryd gan Qais Ahmad.

Merched yn colli

Yn gynharach yn y dydd fe gollodd Menywod Tân Cymreig eu gêm hwythau wedi i'r Northern Superchargers adfer eu batiad yn wych.

Jemimah Rodrigues oedd seren y sioe i'r tîm cartref yn Headingley, gan sgorio 92 o rediadau oddi ar 43 o beli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jemimah Rodrigues oedd seren y gêm i'r Northern Superchargers

Llwyddodd y Superchargers i gyrraedd eu targed o 131 gyda 15 pêl yn weddill, er iddyn nhw golli sawl wiced yn gynnar yn y gêm.

Hayley Matthews oedd sgoriwr uchaf Tân Cymreig gyda 30 o rediadau.

Pynciau cysylltiedig