Buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Northants

  • Cyhoeddwyd
Batwyr MorgannwgFfynhonnell y llun, @GlamCricket
Disgrifiad o’r llun,

Batwyr Morgannwg yn disgleirio oddi cartref yn erbyn Northants

Roedd yna fuddugoliaeth i Forgannwg ddydd Sul yn eu gêm undydd yn erbyn Sir Northampton.

Dewisodd Northants roi Morgannwg ar y llain yn gyntaf ac roedd agoriad y ddau fatiwr Hamish Rutherford a Nick Selman yn arwydd o bethau i ddod gyda 68 rhediad mewn 17 pelawd.

Sgoriodd Rutherford 86 cyn i Sanderson gipio ei wiced ac fe sgoriodd Tom Cullen 58 yn ddi-guro. Fe wnaeth ei berfformiad ef a Joe Cooke sicrhau 71 rhediad yn y chwe phelawd olaf gan roi sgôr terfynol o 295 am chwe wiced i'r tim cartref anelu ato.

Fe gollodd Sir Northampton wiced gyda'r drydedd belen, a chyn cyrraedd deugain rhediad roedd tair wiced wedi syrthio.

Fe sgoriodd Curran 55, Zaib 41 a Taylor 65 ond gyda'r wicedi'n syrthio roedd y tîm cartref i gyd allan am 236 ar ôl 44 pelawd.

Mae'r fuddugoliaeth yn gosod Morgannwg ar ben eu grŵp, ond dim ond dwy gêm sydd wedi eu chwarae.

Morgannwg 295 am 6 - Sir Northampton 236 i gyd allan.

Pynciau cysylltiedig