Cyhuddo dau ddyn arall o lofruddio Tomasz Waga yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r cyhoedd ddaeth o hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd

Mae dau berson arall wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn achos marwolaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.

Bu farw Mr Waga o Wlad Pwyl, ond oedd yn byw yn Essex, ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Westville, Pen-y-lan, yn hwyr ar 28 Ionawr eleni.

Mae chwe dyn eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac maen nhw yn y ddalfa'n aros am achos llys.

Cafodd Josif Nushi, 26, o Ben-y-lan yng Nghaerdydd a Mihal Dhana, 28, o'r Waun Ddyfal, Caerdydd wedyn eu harestio ym Mharis yn ddiweddar a'u hestraddodi.

Mae'n golygu fod wyth person bellach wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Fe ymddangosodd Mr Nushi o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth Mr Waga - Gledis Mehalla, Elidon Elezi, ac Artan Pelluci.

Maen nhw hefyd yn awyddus i ganfod car Mercedes C200 Sport llwyd neu arian, gyda'r rhif cofrestru BK09 RBX.

Pynciau cysylltiedig