Torrwr coed 24 oed 'wedi ei wasgu i farwolaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed sut y cafodd gweithiwr torri coed 24 oed ei wasgu i farwolaeth gan goeden yng nghymoedd y de.
Roedd Ben Thomas, o Aberbargoed, Sir Caerffili yn torri coed ar lethr serth yng Nghoedwig Sirhywi ar 15 Awst 2017 pan gafodd anafiadau difrifol i'w ben a'i fron.
Daeth ei gydweithwyr o hyd iddo ac fe gadarnhaodd parafeddygon ei fod wedi marw.
Mae disgwyl i'r cwest yn Llys Crwner Casnewydd, sydd â rheithgor o bum menyw a phedwar dyn, bara tan ddiwedd yr wythnos.
Clywodd y rheithgor bod Mr Thomas yn gweithio i gwmni o Bont-y-pŵl, Tree Finesse, oedd wedi cael cytundeb i dorri'r coed gan gwmni Euroforest ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn ôl y patholegydd Dr Majid Rashid roedd wedi mygu ar ôl cael ei wasgu, ac roedd anafiadau i'w asennau a'i ysgyfaint o ganlyniad gael ei daro.
Fe wnaeth profion tocsicoleg ddangos bod dim tystiolaeth o alcohol na chyffuriau yn ei waed.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd tad Mr Thomas bod ei fab wedi ymuno â'r cwmni ym mis Ebrill 2017, rhyw dri mis ar ôl cael cymhwyster coedwigaeth a'i fod wrth ei fodd yn yr awyr agored.
Clywodd y cwest bod Mr Thomas, oedd hefyd yn gweithio fel sgaffaldiwr, wedi cael gwaith gyda chwmni ar ôl sgwennu neges ar Facebook a siarad gyda ffrindiau.
Dywedodd ei dad mai anaml y byddai'n gweithio wythnos lawn i Tree Finesse ac roedd ei ddyddiau gwaith yn aml yn gymharol fyr.
Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad, fe ymddiheurodd yr Uwch Grwner Caroline Saunders i deulu Mr Thomas eu bod wedi gorfod aros cyhyd i'r cwest llawn gael ei gynnal.