Y gân am lowyr Cymru sydd wedi ei recordio gan artistiaid mwyaf y byd

Band yn perfformioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

The Byrds yn perfformio yn 1965

  • Cyhoeddwyd

Tybed a wyddoch chi hanes y gân The Bells of Rhymney, sy'n defnyddio geiriau cerdd Idris Davies am lowyr de Cymru, ac sydd wedi ei recordio gan nifer o artistiaid mwya'r byd?

Yn eu plith mae Bob Dylan, Cher, The Byrds, The Alarm, Pete Seeger a Beck.

60 mlynedd yn ôl eleni, cafodd albwm cyntaf y Byrds, Mr Tambourine Man, ei ryddhau, un o recordiau enwocaf y 60au.

Mae'r albwm yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf adnabyddus y band fel Mr Tambourine Man - a aeth i rif 1 yn siartiau Prydain ac America - All I Really Want To Do ac I'll Feel A Whole Lot Better.

Ond mae'r albwm hefyd yn cynnwys eu fersiwn nhw o'r gân The Bells of Rhymney.

Felly sut ddaeth un o fandiau pop mwyaf poblogaidd y cyfnod i recordio cân am 'wlad y gân'?

Cerdd Idris Davies

Mae'r gân yn defnyddio geiriau Gwalia Deserta XV, cerdd gan y bardd Idris Davis o Gwm Rhymni ac wedi'i gosod i alaw gan Pete Seeger, y canwr gwerin enwog o Efrog Newydd.

Daw'r penillion o Gwalia Deserta, cyfrol gyntaf Idris Davies a gyhoeddwyd yn 1938.

Mae'r gerdd yn rhestru nifer o lefydd yn ne Cymru ar batrwm y rhigwm plant adnabyddus Saesneg Oranges and Lemons – Rhymni, Merthyr Tudful, Rhondda, Blaenau, Casnewydd, Caerdydd a Gwy.

Mae'r gerdd yn mynegi dioddefaint glowyr y cyfnod yn ne Cymru, ac yn llawn dicter yn erbyn perchnogion y glofeydd.

Yn ôl Idris Davies, cafodd y gerdd ei hysbrydoli gan ddau ddigwyddiad yn benodol, sef methiant Streic Cyffredinol 1926 a thanchwa Glofa'r Marine y flwyddyn ganlynol ym mhentref Cwm ym Mlaenau Gwent.

GlowyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Glowyr yng Nghwm Rhymni yn 1935

Dyma eiriau'r gerdd:

Oh what will you give me?

Say the sad bells of Rhymney.

Is there hope for the future?

Cry the brown bells of Merthyr.

Who made the mine owner?

Say the black bells of Rhondda.

And who robbed the miner?

Cry the grim bells of Blaina.

Throw the vandals in court,

Say the bells of Newport.

All will be well if, if, if,

Cry the green bells of Cardiff.

Why so worried, sisters why?

Sang the silver bells of Wye.

And what will you give me?

Say the sad bells of Rhymney.

Cwm RhymniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cwm Rhymni heddiw

Pete Seeger yn addasu'r gerdd

Yn 1957, bron i ugain mlynedd ar ôl i'r gerdd gael ei chyhoeddi am y tro cyntaf, wnaeth Pete Seeger ddarganfod y gerdd bwerus mewn blodeugerdd o gerddi Cymreig wedi ei golygu gan Dylan Thomas.

Roedd Seeger yn adnabyddus fel canwr gwerin oedd yn canu caneuon protest, ac fe wnaeth apêl deimladwy The Bells of Rhymney gydio ynddo.

Roedd Seeger yn ffrindiau mawr gyda Bob Dylan, ac fe gafodd ei bortreadu gan yr actor Edward Norton yn y ffilm ddiweddar am fywyd Dylan, A Complete Unknown.

Dyn yn chwarae gitarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pete Seeger, un o artistiaid gwerin mwyaf dylanwadol y 60au, yn perfformio yn y Royal Albert Hall yn 1961

Pwy oedd Idris Davies?

Ganwyd Idris Davies yn 1905 yn Rhymni. Roedd ei dad yn brif weindar yn y pwll glo lleol.

Cymraeg oedd ar yr aelwyd, ac ni ddysgodd Idris Saesneg nes mynd i'r ysgol.

Fe aeth i weithio yn y pyllau glo yn 14 oed. Bu'n löwr am saith mlynedd, nes colli gwaith yn dilyn Streic Cyffredinol 1926.

Cafodd ddwy ddamwain ddifrifol o dan ddaear, gan golli bys mewn un ddamwain.

Dechreuodd Davies farddoni ar ôl colli ei waith, gan ddechrau ysgrifennu yn y Gymraeg.

Fe drodd at y Saesneg yn fuan, sef yr iaith a ddefnyddiodd yn ystod ei yrfa lwyddiannus fel bardd.

Idris DaviesFfynhonnell y llun, Wikipedia

Yn 1932, cwlbhaodd hyfforddiant dysgu ym Mhrifysgol Nottingham, a bu'n athro yn Llundain hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe ddaeth Idris Davies yn ffrindiau da gyda Dylan Thomas, a oedd yn edmygu ei waith yn fawr - Idris oedd un o hoff feirdd y bardd o Gwmdonkin.

Cafodd y gyfrol Selected Poems of Idris Davies ei chyhoeddi yn 1953 gan Faber & Faber. Golygwyd y gyfrol gan y bardd byd-enwog T.S. Eliot, a alwodd y cerddi yma yn "the best poetic document I know about a particular epoch in a particular place."

Plac coffa
Disgrifiad o’r llun,

Plac coffa Idris Davies o flaen hen dŷ ei fam yn Rhymni

Bu farw Idris Davies o ganser yr abdomen ar 6 Ebrill 1953 yn 48 oed yn Rhymni.

Bellach mae dau blac coffa iddo yn ei dref enedigol, yn ogystal â chofeb.

Y Byrds yn recordio The Bells of Rhymney

Er wnaeth Pete Seeger ryddhau ei fersiwn o The Bells of Rhymney yn 1958 ar albwm byw, cafodd y gân ei gwneud yn enwog gan fersiwn The Byrds ar eu halbwm Mr Tambourine Man.

Roedd y Byrds yn hoff iawn o gerddoriaeth werin, ac fe ddaethon nhw'n enwog trwy wneud fersiynau pop o ganeuon gwerin gan Bob Dylan a Pete Seeger.

Roedd y band yn rhannol gyfrifol am ddyfeisio genre newydd o ganu roc, sef roc gwerin.

BandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

The Byrds yn y stiwdio recordio yn Los Angeles yn 1965

Byddai'r band yn parhau i berfformio The Bells of Rhymney yn fyw yn gyson nes iddyn nhw ddod i ben yn 1973.

Hon oedd un o'r caneuon y perfformiodd y band yn fyw y nifer mwyaf o weithiau yn ystod eu gyrfa.

Artistiaid eraill yn recordio'r gân

Roedd fersiwn y Byrds o The Bells of Rhymney yn boblogaidd iawn, er na chafodd ei ryddhau fel sengl.

Yn eu tro, byddai rhai o artistiaid enwocaf yr 20fed ganrif yn recordio'r gân - gan gynnwys Bob Dylan, Cher, Beck, Jakob Dylan (mab i Bob), Robyn Hitchcock a The Alarm.

Beatles yn y BBC
Disgrifiad o’r llun,

Y Beatles yn 1965

Ac yn ôl y sôn, roedd The Beatles - a oedd yn ffans mawr o'r Byrds - yn hoff iawn o'r trac.

Wnaeth George Harrison hyd yn oed ddwyn riff canolog y gân a'i ddefnyddio yn ei gân If I Needed Someone ar albwm y Beatles, Rubber Soul, a gafodd ei ryddhau yn Rhagfyr 1965.

Yn fwy diweddar, canodd James Dean Bradfield o Manic Street Preachers addasiad o Gwalia Deserta XXXVI, cerdd arall gan Idris Davies ar albwm y band Public Service Broadcasting, Every Valley, yn 2017.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig