Cais i'r Eisteddfod gael 'strategaeth ymadael' i adael mwy o waddol

Parc Ynysangharad ym Mhontypridd oedd cartref yr Eisteddfod yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd y Gymraeg wedi gwneud "cais newydd" i'r Eisteddfod Genedlaethol i gael "strategaeth ymadael o'r diwrnod y maen nhw'n nodi ardal lle mae'r eisteddfod i'w chynnal" er mwyn gadael mwy o waddol.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gofyn i'r eisteddfod "i fod yn fwy ymwybodol o'r angen iddyn nhw weithio gyda'r partneriaid" fel mentrau iaith a'r awdurdodau lleol i gynllunio'r gwaddol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod "yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid... ym mhob ardal sy'n croesawu'r ŵyl er mwyn sicrhau gwaddol ar draws nifer o feysydd gan gynnwys yr iaith, diwylliant, y gymuned a gwirfoddoli".
Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni yn ardal Is-y-coed ar gyrion Wrecsam o 2-9 Awst.

Mae'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal eleni yn ardal Is-y-coed ar gyrion Wrecsam
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford ym mhwyllgor diwylliant y Senedd yr wythnos ddiwethaf bod cynllunio gwaddol yr Eisteddfod yn "debyg iawn i gynllunio rhyddhau [claf] o'r ysbyty".
"Mae angen i'r cynllun rhyddhau ddechrau ar y diwrnod y caiff y claf ei dderbyn, nid pan maen nhw'n barod i adael."
Ychwanegodd: "Mae'r Eisteddfod yn sbarduno pob math o weithgarwch.
"Weithiau mwy o weithgarwch ymhlith sefydliadau presennol, weithiau mae pethau newydd yn dod i fodolaeth - corau sydd wedi ymgynnull yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod ac yn y blaen.
"Felly yr hyn yr ydym yn gofyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ei wneud yw meddwl am sut y bydd hynny'n cael effaith y tu hwnt i wythnos yr Eisteddfod ei hun, o'r diwrnod y byddant yn nodi'r lleoliad nesaf hwnnw.
"Dydw i ddim yn meddwl y dylem ni deimlo'n ddigalon amdano, oherwydd dwi'n meddwl bod tystiolaeth o Bontypridd o sut mae hynny'n digwydd; gall ddigwydd i raddau mwy, dwi'n siŵr."

Dywedodd Mark Drakeford fod tystiolaeth o Eisteddfod Pontypridd am sut y gellir gadael mwy o waddol
Dywedodd iddo fynychu digwyddiad ym Mhontypridd yn gynharach eleni "lle daeth llawer o sefydliadau oedd wedi bod yn rhan o'r Eisteddfod yn ôl at ei gilydd i siarad am yr hyn roedden nhw'n ei wneud wedyn a'r effaith hirdymor yr oedd wedi'i chael".
Bu'n crybwyll yr enghraifft fod eisteddfod leol wedi ei chynnal ym Mhontypridd "na fyddai wedi digwydd oni bai am yr Eisteddfod Genedlaethol".
Felly, meddai: "Dwi'n meddwl y gallwn ni weld yn barod sut y gellir cynnal y cynllunio gwaddol hwnnw'n llwyddiannus, ond gyda mwy o ffocws arno, mae mwy y gallwn ni ei wneud."

Mae'r lleoliad y Brifwyl eleni tua phum milltir o ganol Wrecsam
Gofynnodd Heledd Fychan, AS Plaid Cymru, i Mr Drakeford sut mae mesur y gwaddol hynny, a beth ydy rôl y llywodraeth o ran y gwaddol.
Atebodd Mr Drakeford: "Mae e'n dibynnu lot ar y cyd-destun... mae beth sy'n bwysig i'w wneud ym Mhontypridd yn wahanol i beth oedd yn bwysig yn Llŷn, ble roedd yr Eisteddfod y flwyddyn cyn hynny.
"Dwi ddim yn edrych at yr Eisteddfod Genedlaethol i barhau i wneud pethau yn lleol ar ôl i'r Eisteddfod symud ymlaen at y safle nesaf.
"Beth ŷ'n ni wedi gofyn i'r Eisteddfod ei wneud yw helpu pobl leol ar ôl, gyda'r dystiolaeth fydd gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, ac i feddwl am hwnna pan fyddan nhw'n mynd ati i wneud y gwaith maen nhw'n ei wneud.
"Bydd yn rhaid inni edrych ar y mentrau iaith a'r asiantaethau eraill, fel yr awdurdod lleol a'r bobl yn y trydydd sector, i wneud y gwaith ar ôl i'r Eisteddfod symud ymlaen."
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2024
Dywedodd mai rôl y llywodraeth "yw nid un strategol, ond i ddefnyddio y pŵer sydd gyda ni i dynnu pobl at ei gilydd yn lleol i helpu pobl leol i gynllunio, i helpu pobl leol feddwl beth maen nhw eisiau ei wneud ar ôl yr Eisteddfod, ble maen nhw'n meddwl mae'r cyfleon yn dod".
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth y BBC: "Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol o'r cychwyn er mwyn adnabod blaenoriaethau lleol fel ein bod ni'n gallu sicrhau fod ein gwaddol yn ymateb i ddyheadau yr ardal, yn hytrach na phennu ein blaenoriaethau gwaddol ein hunain".
Ychwanegodd eu bod yn "croesawu'r ffaith fod y gweinidog yn galw am strategaeth ymadael ym mhob ardal er mwyn adeiladu gwaddol, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid megis y llywodraeth, yr awdurdodau lleol, y mentrau iaith, y cyngor gwirfoddol lleol ymysg eraill, ym mhob ardal sy'n croesawu'r ŵyl er mwyn sicrhau gwaddol ar draws nifer o feysydd gan gynnwys yr iaith, diwylliant, y gymuned a gwirfoddoli".
'Yr eisteddfod wyrddaf erioed'
Hefyd yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, ceisiodd AS Wrecsam Lesley Griffiths gael sicrwydd bod "trafodaethau wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a threfnwyr yr Eisteddfod i leihau gwastraff, i gaffael bwyd lleol ac organig, i ddewis deunyddiau cynaliadwy ac ecogyfeillgar ar gyfer eu harwyddion, i ddarparu mannau ail-lenwi dŵr am ddim, ac i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ymhlith mentrau eraill".
Atebodd Eluned Morgan "rydym yn gwybod mai eisteddfod Rhondda Cynon Taf oedd yr eisteddfod wyrddaf erioed, ac rwy'n gwybod bod gan Wrecsam gynlluniau i adeiladu ar hynny".
Mae gan yr Eisteddfod bolisi cynaliadwyedd sy'n datgan mai eu nod yw cyflawni allyriadau sero net a dim gwastraff erbyn 2030.
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Rydyn ni am ysbrydoli newid gydag ein cynulleidfaoedd a'n cadwyn gyflenwi.
"Rydyn ni wedi gwahardd plastig un-tro ers rhai blynyddoedd, a ni oedd yr ŵyl gyntaf yng Nghymru i gyflwyno gwydrau plastig y gellir eu defnyddio eto.
"Rydyn ni hefyd wedi gwahardd ein stondinwyr rhag defnyddio plastig untro, gan gynnwys deunyddiau marchnata am ddim i ymwelwyr."
Ychwanegodd eu bod yn gweithio gydag arlwywyr er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio cyflenwyr sydd mor lleol â phosibl ar draws yr ŵyl.
"Rydyn ni hefyd yn darparu nifer o lefydd ar hyd a lled y Maes i bobl lenwi poteli dŵr ac yn annog pobl i ddod â'u poteli gyda nhw i'r Maes.
"Yn yr un modd, rydyn ni wedi torri i lawr yn sylweddol ar ddeunyddiau wedi'u hargraffu dros y blynyddoedd diwethaf ac yn annog ein hymwelwyr yn gryf i ail-ddefnyddio'r map drwy gydol yr wythnos.
"Eleni, mae ein holl swyddfeydd ar draws y safle'n defnyddio ynni solar yn unig drwy gydol y cyfnod adeiladu a thynnu i lawr."