Rali yn erbyn cynlluniau solar 'pryderus iawn' ym Môn

Protest solar
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rali yn cael ei chynnal ar Sgwâr Buckley yn Llangefni fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Daeth tua 150 o bobl i rali yn Llangefni ddydd Sadwrn yn gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer ffermydd ynni solar ar Ynys Môn.

Mae dau gynllun wedi eu cyflwyno, sef prosiectau Alaw Môn - fyddai'n cynhyrchu 160MW o ynni - a Maen Hir - fyddai'n cynhyrchu dros 350MW.

Fe fyddai'r datblygiadau gan Enso Energy a Lightsource BP yn gorchuddio 3,700 erw o dir - tua 2% o gyfanswm arwynebedd tir Ynys Môn.

Mae Lightsource BP, sy'n gyfrifol am gynllun Maen Hir, yn dweud eu bod yn dal i ymgynghori gyda chymunedau lleol, a'u bod yn gwerthfawrogi'r adborth maen nhw wedi'i dderbyn hyd yma.

Mae Enso Energy - datblygwyr cynllun Alaw Môn - wedi cael cais am sylw.

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth yn poeni fod y cynlluniau yn "ecsploetio" Ynys Môn

Wrth annerch y rali ar Sgwâr Buckley yn Llangefni, dywedodd Aelod Ynys Môn yn y Senedd, Rhun ap Iorwerth ei fod yn poeni'n fawr am y cynlluniau.

"Da ni'n bryderus iawn yma ar Ynys Môn ynglŷn â'r ecsploetio sydd yn cael ei gynllunio gan gwmnïau sy'n mynd i wneud elw o filiynau o bunnoedd oddi ar ddwyn ein tir amaethyddol ffrwythlon ni," meddai arweinydd Plaid Cymru.

"Ma' ffyrdd eraill mwy arloesol o gynhyrchu ynni solar – ar ein telerau ni yma ym Môn, mae enghraifft ddiweddar o ddefnyddio gorchudd solar ym maes parcio'r cyngor sir, er enghraifft.

"Mae gan ynni solar ran bwysig i'w chwarae yn ein hymdrech i ddatgarboneiddio, ond byddai prosiectau ar raddfa ddiwydiannol fel hyn ar dir cynhyrchiol yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymunedau ac ar y sectorau amaethyddiaeth a thwristiaeth, tra'n cynnig ychydig iawn o gyfraniad economaidd a swyddi yn lleol."

Gareth Winston Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Winston Roberts yn cymharu'r sefyllfa â boddi Capel Celyn

Mae cyn-arweinydd Cyngor Môn, Gareth Winston Roberts yn byw ger safle arfaethedig cynllun Maen Hir, ac yn dweud y gellir cymharu'r sefyllfa â Chapel Celyn yn y 1960au.

"Dwi' ddim yn erbyn solar, ond dwi'n teimlo'n gry' bod hwn yn mynd i effeithio ar ddyfodol ein plant ni ym Môn," meddai.

"'Da ni'n sôn am filoedd o aceri o dir da… ac yn mynd i effeithio falle ar gynllun Wylfa.

"'Da ni'n colli ein pobl ifanc o Fôn, ac felly ma' isio sicrhau gwaith ym Môn – 'da ni'n sôn am Dryweryn yma ar Fôn Mam Cymru."

Sarah Pye
Disgrifiad o’r llun,

"Mi fyddai caniatáu'r datblygiad yn golygu milltiroedd o gaeau duon," medd Sarah Pye

Bu Sarah Pye o Rhos-goch ger Amlwch yn annerch y dorf, gan ddweud y byddai cynllun Maen Hir yn mynd ar draws ei thir hi hi ac yn chwalu ei hymdrechion i blannu coedwig fechan.

"Dwi ddim isio gweld fferm solar enfawr yn Rhos-goch, a ddim isio gweld cebl yn mynd drwy fy nhir," meddai.

"Fe symudon ni yma pedair blynedd yn ôl, a'n breuddwyd oedd creu coedwig fechan a datblygiad twristiaeth.

"Mi fyddai'r cynllun yma'n chwalu ein breuddwydion.

"Pam ddim gosod y paneli yma ar doeau ysgolion ac ysbytai?

"Mi fyddai caniatáu'r datblygiad yn golygu milltiroedd o gaeau duon."

Phillipa Chisnall
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phillipa Chisnall y byddai'r cynlluniau'n cael "effaith anferth ar Ynys Môn"

Un arall ymhlith yn y rali oedd Phillipa Chisnall o Gapel Coch ger Llangefni.

"'Da ni'n byw mewn ardal brydferth ac fe fyddai'r cynllun yn golygu gosod ffordd drwy fy nhir," meddai.

"Dwi'n rhedeg safle Facebook yn gwrthwynebu'r cynllun ac mae gennym ni lawer o gefnogaeth.

"Nid NIMBYs (not in my back yard) ydan ni, ond fe fyddai'r cynllun yma'n cael effaith anferth ar Ynys Môn."

Derek Owen
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Derek Owen, byddai'n "gywilydd" defnyddio tir amaethyddol ar gyfer ffermydd solar

Yn ôl y cynghorydd annibynnol Derek Owen, sy'n cynrychioli ward Twrcelyn ar Gyngor Môn - ardal sy'n cynnwys cynllun Maen Hir – mae'n rhaid gwrthwynebu'r cynlluniau yma er lles y diwydiant amaeth.

"Ma'n gywilydd o beth bod tir amaethyddol da yn cael ei iwsio i roi solar panels arno fo," meddai.

Mae'r cynghorydd Jackie Lewis yn cynrychioli Ward Talybolion – ardal sy'n cynnwys prosiect Alaw Môn.

Mae hithau'n dweud bod rhaid i gwmni Enso Energy ailedrych ar eu cynllun a'r effaith y byddai'n ei gael ar drigolion yr ardal.

"Ma' pobl yr ardal yn pryderu'n ofnadwy – yn enwedig Carreglefn a Llanbabo. Mi fyddai'r paneli 'ma'n dod reit at eu gardd gefn nhw.

"Ma'n diwydiannu cefn gwlad a pobl yn poeni am y glare ddaw o'r paneli, a dydyn nhw ddim isio eistedd yn eu tai efo'r llenni wedi cau, ac wrth gwrs fe fyddai'r holl loriau a'r gwaith o adeiladu fferm o'r fath."

Jackie Lewis
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' pobl yr ardal yn pryderu'n ofnadwy," meddai Jackie Lewis

Cafodd penderfyniad ar gynllun Alaw Môn ei atal fis Tachwedd y llynedd er mwyn galluogi'r datblygwyr i ddarparu mwy o fanylion.

Byddai datblygiad Alaw Môn yn gweld paneli yn cael eu gosod ger Llyn Alaw yng nghanol Ynys Môn, gan gynhyrchu digon o ynni i bweru tua 34,000 o gartrefi.

Yn ôl Enso Energy byddai'r cynllun 160MW yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion holl gartrefi'r ynys.

Protest solar
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 150 o bobl i'r rali yn Llangefni ddydd Sadwrn

Bwriad Lightsource BP yw codi'r paneli solar ar draws tri safle, fyddai'n cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.

Mae hyn bron gyfystyr â nifer y tai yn siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy gyda'i gilydd.

Gyda chapasiti o dros 350MW, byddai datblygiad Maen Hir bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.

Yn ôl y cwmni, byddai'r prosiect solar a storio ynni - fydd angen caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU oherwydd ei faint - yn ffordd o helpu i gyrraedd targedau sero net Llywodraeth Cymru.

Ychwanegon nhw fod bwriad i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg a swyddi ar yr ynys.

Mewn datganiad dywedodd Lightsource BP eu bod nhw'n parhau i wrando ac ymgynghori gyda chymunedau lleol, a'u bod yn gwerthfawrogi'r adborth maen nhw wedi'i gael hyd yma, sy'n eu cynorthwyo i lunio eu cynlluniau.

Mae cwmni Enso Energy wedi cael cais am sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru - fydd yn penderfynu ar gynllun Alaw Môn - nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud sylw wrth i'r broses gynllunio fynd rhagddo.

Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu ar gynllun Maen Hir.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch Ynni a Sero Net: "Mae teuluoedd wedi gweld eu biliau ynni yn codi'n aruthrol oherwydd ein dibyniaeth ar farchnadoedd nwy anwadal, sy'n cael eu rheoli gan unbeniaid fel Putin.

"Mae ynni solar yn ganolog i'n nod o ddod yn arweinydd byd ar ynni glân, gan roi diogelwch ynni i Brydain fel y gallwn ni ostwng biliau.

"Mae pob prosiect yn destun prosesau cynllunio trylwyr, a rhaid ystyried barn cymunedau lleol."

Pynciau cysylltiedig