Cymru i newid rheolau cwarantin er 'risgiau clir'
- Cyhoeddwyd
Ni fydd rhaid i deithwyr o'r Undeb Ewropeaidd na'r Unol Daleithiau sydd wedi eu brechu'n erbyn Covid-19 hunan-ynysu wrth gyrraedd Cymru, er "risgiau iechyd cyhoeddus clir", meddai'r llywodraeth.
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y byddai Cymru'n dilyn cynllun Lloegr a dileu'r angen am gyfnod cwarantin o 2 Awst.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n "gresynu" ar y newid gan Lywodraeth y DU, meddai Eluned Morgan.
Er hynny, dywedodd bod y ffin agored â Lloegr yn golygu "y byddai'n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru".
Bydd y newid yn helpu aduno teuluoedd a ffrindiau, medd Llywodraeth y DU.
'Risgiau clir' i'r cynllun
Fe ddaw'r newid i rym am 04:00 fore Llun, a bydd angen i deithwyr gael prawf Covid cyn gadael, a phrawf PCR yr ail ddiwrnod ar ôl iddynt gyrraedd.
Dywedodd Ms Morgan bod "risgiau iechyd cyhoeddus clir o hyd wrth ailddechrau teithio rhyngwladol ar hyn o bryd - ac o gael gwared ar gyfyngiadau cwarantin".
Mae'n creu "risg uwch o fewnforio achosion ac amrywiolion", a'r cyngor swyddogol yw i beidio teithio dramor, meddai.
Er yr anfodlonrwydd gyda'r cynllun, dywedodd na fyddai'n ymarferol i geisio glynu at reolau gwahanol yng Nghymru.
"Felly, byddwn yn cyd-fynd â llywodraethau eraill y DU ac yn gweithredu'r penderfyniad hwn ar gyfer Cymru.
"Rydym yn edrych tuag at Lywodraeth y DU i ddarparu sicrwydd y bydd prosesau mewn lle i sicrhau bod y sawl sy'n cyrraedd y DU wedi'u brechu'n llawn."
Yn gynharach, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y byddai'n "anodd iawn" i Gymru beidio â dilyn Lloegr.
Ond galwodd Mr Drakeford am sicrwydd y gall Llywodraeth y DU sicrhau statws brechlyn teithwyr o'r UE ac UDA.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru y byddai wedi bod yn well ganddo ddull mwy rhagofalus gan Lywodraeth y DU, a dywedodd ei bod yn well osgoi teithio rhyngwladol o hyd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin eu bod am ddilyn yr un patrwm â Lloegr wrth symud lleoliadau gwyliau i'r rhestr werdd.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "dawel ei feddwl bod Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n rhaid i'r brechlynnau fod yn rhai a gydnabyddir gan ein hawdurdodau rheoleiddio ein hunain. Byddaf yn dal eisiau gwybod lefel y sicrwydd.
"Yr Unol Daleithiau er enghraifft, does dim tystysgrifau brechlyn, yn ôl a ddeallaf," meddai wrth sianel newyddion y BBC.
"Felly, sut y bydd Llywodraeth y DU yn gwybod bod rhywun sy'n teithio o'r Unol Daleithiau wedi cael ei frechu'n ddwbl?"
Ychwanegodd: "Rydyn ni wedi dweud yn gyson fel Llywodraeth Cymru y byddem ni wedi cymryd agwedd wahanol tuag at deithio rhyngwladol.
"Rwy'n dal i feddwl mai dyma'r flwyddyn y mae'n well osgoi teithio rhyngwladol.
"Nid ydym am weld yng Nghymru y sefyllfa a wynebwyd gennym ym mis Medi y llynedd, pan ail-fewnforiwyd y feirws i Gymru gan bobl a oedd wedi ymweld â rhannau eraill o'r byd.
"Byddai'n well gennym ni ddull mwy rhagofalus gan Lywodraeth y DU ac rydym wedi gwneud ein gorau i'w perswadio o hynny drwyddi draw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021