Morgannwg yn colli o un rhediad yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Michael Hogan

Collodd Morgannwg o un rhediad yn erbyn Gwlad yr Hâf yn y Cwpan Undydd ddydd Mercher.

Mewn gêm fyrrach na'r arfer oherwydd glaw yn Taunton, fe wnaeth Gwlad yr Hâf sgorio 180 am 7 yn eu 37 pelawd.

Y capten Ben Green oedd y prif sgoriwr, gan daro 87 oddi ar 72 pêl, wrth i Michael Hogan gymryd pedair wiced i Forgannwg am 33 rhediad.

Gyda tharged o 181, fe gafodd y Cymry ddechrau digon sigledig i'w batiad, cyn i Billy Root (37) a Tom Cullen (37) godi gobeithion.

Roedd Morgannwg angen 10 rhediad o'r belawd olaf, ond boddi wrth ymyl y lan wnaeth yr ymwelwyr, gan orffen ar 179 am 9, un rhediad yn fyr o gyfanswm y tîm cartref.

Pynciau cysylltiedig