Torrwr coed wedi marw'n ddamweiniol, medd rheithgor
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor cwest wedi dod i'r casgliad bod torrwr coed ifanc o Sir Caerffili wedi marw'n ddamweiniol pan syrthiodd coeden arno.
Cafodd Ben Thomas, 24, ei ladd yn syth pan gafodd ei wasgu gan larwydden, oedd yn pwyso yn erbyn coeden roedd newydd ei thorri yng Nghoedwig Sirhywi ar 15 Awst 2017.
Roedd y torrwr coed o Aberbargoed newydd gael cymhwyster i wneud y gwaith saith mis ynghynt, ac roedd yn cael ei oruchwylio o bellter o oddeutu 50 metr dan ganllawiau gweithio'n ddiogel y diwydiant.
Gan gyfarwyddo'r rheithgor i ddod i gasgliad o farwolaeth trwy ddamwain, dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders bod "dim digon o dystiolaeth" i awgrymu na ddylai Mr Thomas fod wedi torri coed ar y diwrnod dan sylw.
Roedd y gwrandawiad yn Llys Crwner Casnewydd wedi clywed nad oedd Mr Thomas i fod i weithio ar y diwrnod hwnnw yn wreiddiol, ond ei fod wedi newid ei gynlluniau ar ôl cael cynnig gweithio.
Clywodd y rheithgor bod Mr Thomas wedi dechrau gweithio ar ran cwmni Tree Finesse o Bont-y-pŵl ym Mai 2017, a hynny ar ôl dod yn gymwys i dorri coed yn Ionawr y flwyddyn honno.
Dywedodd rheolwr y cwmni, Mark Whitehead, bod Mr Thomas wedi bod yn "saff", ei fod yn gwirioni ar y gwaith ac wedi torri tua 15,000 o goed yn ystod ei gyfnod fel is-gontractwr.
Ond clywodd y cwest nad oedd modd goruchwylio Mr Thomas o agos oherwydd roedd canllawiau'r diwydiant yn nodi bod torri coed yn "waith un person".
Dywedodd arbenigwr yn y maes, Martin Lennon, wrth y llys bod marciau ar y llarwydden a syrthiodd ar ben Mr Thomas yn dangos ei bod wedi pwyso yn erbyn y goeden roedd wedi ei dorri "am gryn amser".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021