Pobl ddall yn 'rhwystredig' gyda'r rhaglen frechu
- Cyhoeddwyd
Mae ffactorau sy'n gwneud hi'n llai hwylus i bobl sy'n ddall neu'n colli'u golwg gael brechiadau Covid yng Nghymru'n "rhwystredig", medd elusen.
Mae pobl wedi derbyn llythyrau apwyntiad sy'n amhosib iddyn nhw'u darllen heb unrhyw opsiwn i gael y wybodaeth yn ddigidol, neu wedi'u danfon i ganolfannau brechu anos i'w cyrraedd.
Oherwydd hyn, medd RNIB Cymru, mae rhai'n teimlo eu bod "wedi'u hanghofio" ac yn llai parod i gael brechiad.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi gweithio gyda'r elusen i sicrhau llythyrau apwyntiad mwy hygyrch.
'Peidiwch anghofio'r fenyw yn y gadair!'
Cafodd Megan Price o Aberdâr ei geni heb iris ac mae hefyd â glawcoma.
Yn fuan ar ôl cyrraedd canolfan yng Nghaerdydd am ei brechiad coronafeirws cyntaf ym mis Chwefror, fe ddaeth i'r casgliad bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o ran helpu pobl â thrafferthion golwg.
Trwy gymorth ei chyfaill, fe drefnodd swyddog diogelwch gadair ar ei chyfer wrth iddi hi a nifer o bobl eraill aros eu tro mewn grŵp.
Pan gafodd y grŵp eu galw, fe waeddodd aelod o staff "peidiwch anghofio'r fenyw yn y gadair!"
"Roedd gen i ffon wen, ac fe wnaethon nhw geisio rhoi cyfarwyddiadau i mi ond doedd gen i ddim syniad ble ro'n i'n mynd," meddai. "Rwy'n ofni nodwyddau, felly ro'n i eisoes dan straen."
Fe roddwyd taflen wybodaeth iddi am y brechlyn, nad oedd ar gael ar unrhyw ffurf arall. Ar daflen arall, wedyn, roedd yn anodd gweld cod QR sy'n hwyluso trosglwyddo'r wybodaeth i ffôn, hyd yn oed trwy ddefnyddio chwyddwydr fideo.
"Fe ddaeth pwynt ble pe tasai un peth arall wedi mynd o chwith, efallai y byddwn i wedi gadael, heb gael brechiad," meddai.
'Cael mynd â sgwter, ond nid ci tywys'
Cafodd Nathan Foy, sy'n 41 ac o Laneirwg yng Nghaerdydd, ei eni gyda glawcoma.
Bu'n rhaid defnyddio ap ar ei ffôn i ddarllen y llythyr apwyntiad ynghylch ei frechiad cyntaf mewn canolfan ben arall y ddinas - taith "hawdd" mewn car, meddai a fyddai'n golygu cryn ymdrech ar fws.
"Wyddwn i ddim bod modd mynd i unman arall. Fyswn i wedi gallu ei gael yn fy meddygfa, a fyddai wedi bod yn help mawr."
Pan gyrhaeddodd ar gyfer ei ail frechiad, doedd swyddog yno "ddim yn fodlon" gadael ei gi tywys yn yr adeilad.
"Dywedodd dau aelod o staff na allen nhw gael cŵn yno. Daeth trydydd dyn yno wedyn a dweud bod hi'n iawn mynd â sgwter yno... bu'n rhaid i mi weiddi 'ci tywys yw e' i ddadlau'r achos."
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro dan roi addewid i sicrhau cefnogaeth i bobl sy'n ddall neu â nam ar y golwg mewn canolfannau brechu.
Mae hynny, medd llefarydd, yn cynnwys atgoffa staff bod angen caniatáu mynediad i gŵn tywys.
'Angen cysondeb ar draws Cymru'
Dywed cadeirydd RNIB Cymru, Ansley Workman ei bod wedi clywed am brofiadau tebyg ar draws Cymru, a bod trafferthion teithio i ganolfannau brechu'n waeth mewn ardaloedd gwledig.
"Rydym wedi clywed sut mae pobl wedi gorfod teithio 60 milltir i gyrraedd canolfannau," meddai.
"Rydym yn clywed bod staff a gwirfoddolwyr canolfannau'n wirioneddol dda.... ond mae pobl yn gofyn am wybodaeth ar ffurf hygyrch, a does dim byd, er bod angen darparu'r wybodaeth yna."
Mae'r elusen yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau cysondeb o ran:
Gwybodaeth am frechiadau, gan gynnwys llythyrau apwyntiad, mewn fformat hygyrch, fel print mawr, sain, braille a digidol; a
Dewis lleoliad derbyn brechiad yn achos pobl ddall a rhannol ddall.
Dywed Ms Workman: "Mae'n destun pryder oherwydd mae gan bawb hawl i wybodaeth iechyd ar ffurf hygyrch".
Ychwanegodd bod yna gamau i fynd i'r afael â'r sefyllfa, ond "yn amlwg byddwn yn dymuno i hynny ddigwydd yn llawer cyflymach".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd yn rhoi cefnogaeth i bobl â nam ar y golwg i sicrhau eu bod yn gallu derbyn cynnig am frechiad.
"Dylai unrhyw un nad sydd wedi cael brechiad, ac sydd angen cyngor neu gymorth, gysylltu gyda'u bwrdd iechyd lleol.
"Rydym wedi gweithio gyda'r RNIB i wneud y llythyr apwyntiad yn fwy hygyrch. Mae deunyddiau print mawr ar gael mewn canolfannau brechu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020