Plant â thrafferthion golwg 'ar eu colled'

  • Cyhoeddwyd
Nell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nell mai ei hoff beth hi nawr ydy ei bod hi'n medru agor paced o greision ei hun

Mae plant sy'n byw gyda nam ar eu golwg yn colli allan ar wasanaethau hanfodol mewn rhai rhannau o Gymru, medd elusen.

Yn ôl yr elusen Cŵn Tywys, does dim hyfforddiant addasu a chymhwyso yn cael eu cynnig o fewn rhai ardaloedd.

Mae un teulu yn dweud bod ymyrraeth gynnar yn hollbwysig ac yn "newid bywydau" drwy helpu plant a phobl ifanc i ddysgu sgiliau allweddol y mae plant eraill yn eu cael trwy eu golwg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cefnogi Cyngor y Deillion Cymru i adolygu'r gofal a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae Nell yn chwech oed ac mae ganddi gyflwr glawcoma. Mae hi'n ddall mewn un llygad, gyda nam difrifol ar y llall.

Mae wedi derbyn cefnogaeth cymhwyso trwy Cŵn Tywys Cymru ers iddi fod yn flwydd oed, ac mae'n gyffrous iawn o fod wedi dysgu sgil newydd yn ddiweddar.

"Dwi wedi dysgu sut i agor pecyn o greision ar ben fy hun," meddai.

"Yna, dwi'n eu bwyta nhw i gyd ar unwaith!"

Ychwanegodd: "Dwi hefyd wedi deall sut i ddefnyddio fy nghansen yn iawn, a sut i'w defnyddio i bwyntio bys neu i lywio gofodau newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cymorth wedi newid bywyd ei merch, meddai Rachel, mam Nell

Fel popeth arall, mae'r gefnogaeth wedi symud ar-lein dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny wedi cyflwyno heriau, ond mae teulu Nell yn dal i werthfawrogi'r gwasanaeth.

Dywedodd mam Nell, Rachel, fod y gefnogaeth wedi "newid bywyd" ei merch.

"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, ac wedi newid ein bywydau ni mewn gwirionedd," meddai.

"O'r cyswllt cyntaf hwnnw, mae hi wedi bod mor hyfryd cael rhywun yno i'n helpu ni.

"Cawsom flwyddyn gyntaf anodd gyda Nell ac yn syth roeddem yn teimlo bod y gefnogaeth yno.

"Mae'n fy ngwneud yn drist iawn meddwl am deuluoedd sydd heb y gwasanaethau hyn. Rwy'n meddwl am rieni fel ni sy'n methu allan ar gefnogaeth allweddol.

"Mae'n rhoi'r siawns honno o annibyniaeth i blant dall - rhywbeth maen nhw'n wir ei haeddu."

'Ymyrraeth gynnar yn allweddol'

Mae Cŵn Tywys Cymru eisiau i'r gefnogaeth hanfodol hon gael ei chynnig i blant ledled Cymru, ac maent yn siomedig nad yw rhai awdurdodau lleol yn cynnig unrhyw wasanaethau cymhwyso o gwbl.

Mae Branwen Jones yn swyddog arbenigol gyda Chŵn Tywys, ac mae'n cydweithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ar draws gogledd Cymru.

"Mae bylchau yn y ddarpariaeth, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau sefydlu, a does dim hyfforddiant addasu yn cael ei gynnig o gwbl o fewn rhai awdurdodau lleol," meddai.

"Mae ymyrraeth gynnar i blant â nam ar eu golwg yn allweddol ac yn rhywbeth pwysig iawn i blant a'u teuluoedd."

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru'n dweud bod "cefnogi anghenion plant a phobl ifanc" yn parhau i fod yn "flaenoriaeth i awdurdodau lleol".

"Mae angen cyllideb hir dymor cynaliadwy er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau arbenigol, er mwyn gwella eu gallu i gwrdd â'r gofynion," meddai llefarydd

Wrth ymateb i sylwadau Cŵn Tywys Cymru dywed Llywodraeth Cymru: "Mae ein cyllideb ddrafft yn cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol trwy eu setliad cyllido 3.8% yn gyffredinol yn 2021-22.

"Rydym yn darparu cyllid i sefydliadau trydydd sector i gefnogi gwasanaethau adsefydlu i bobl sydd wedi colli eu golwg.

"Rydym hefyd yn ariannu Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, sy'n darparu cymhorthion golwg gwan i gleifion â nam ar eu golwg."

Pynciau cysylltiedig