Diwedd cyfnod wrth i gigydd olaf Machynlleth gau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cau busnes cigydd a lladd-dy Machynlleth wedi 60 mlynedd

Fe fydd yn ddiwedd cyfnod ym Machynlleth ddydd Sadwrn pan fydd siop gigydd ola'r dref a'r lladd-dy lleol yn cau eu drysau am y tro olaf.

Mae William Lloyd Williams a'i deulu wedi bod â siop gigydd yno ers dros 60 o flynyddoedd.

Ond mae'n bryd gwneud amser nawr, meddai Wil Lloyd, ar gyfer pethau eraill yn ei fywyd - gan gynnwys ei rôl fel is-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae ffermwyr ardal Dyffryn Dyfi sydd wedi dibynnu ar y lladd-dy yn mynd i weld colled, ac mae Hybu Cig Cymru yn dweud bod y lladd-dai bach yn "perfformio gwasanaeth anhygoel o bwysig".

'Emotional ofnadwy'

Mae gan Wil Lloyd - sy'n 60 oed - oes o brofiad yn ei grefft. Fe ddechreuodd weithio yn y siop, sydd wedi bod yn amlwg ar stryd fawr Machynlleth ers degawdau, ym mis Gorffennaf 1980.

Ei daid, y Wil Lloyd gwreiddiol, ddechreuodd y busnes teuluol yn Neuadd Gaerwen yng Nghorris Uchaf yn y 1930au.

Cafodd y busnes ei basio i Billo - tad y Wil Lloyd presennol - ac fe oroesodd yng nghanol Machynlleth wrth i gigyddion eraill yn y dref gau.

Ond nawr fe fydd drysau'r siop gigydd olaf ym Machynlleth yn cau.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n browd bo' fi'n gallu troi anifail yn fwyd, efo'n nwylo a cylleth finiog, mae'n grefft," meddai Wil

"Mae'n benderfyniad 'sen i 'di gorfod ei 'neud dwi'n siŵr yn y blynyddoedd nesa' 'ma, ond dwi 'di meddwl amdana fo, ac mae 'na rai pethau 'di dod i'r fantol fel colli'n chwaer i, a dwi 'di 'neud y penderfyniad dipyn bach yn gynharach," meddai Wil Lloyd.

Mae'n dweud bod sawl peth y bydd yn ei golli, o weithio gyda ffermwyr lleol a gweld "safon yr anifeiliaid a safon y ffarmio yn yr ardal", i "ffyddlondeb y cwsmeriaid sydd wedi bod yn dod yma" ers 40 o flynyddoedd.

"Mae yn emotional ofnadwy," meddai.

"'Se Billo 'nhad yn fyw heddiw, ac o'dd o'n arwr: 'cau'r llidiart fan hyn, ac agor un arall bore dydd Llun William'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wil Lloyd wedi bod yn gweithio yn y siop ym mis Gorffennaf 1980

Bydd cwsmeriaid y siop yn gweld ei eisiau yn fawr. Roedd rhai o'i gwsmeriaid yn disgrifio cau'r siop fel "colled enfawr" ac ergyd "ofnadwy" i'r dref - fydd heb gigydd bellach.

"Lle 'da ni'n mynd i fynd i gael ein cig?" meddai un arall.

Yn ogystal â'r siop mae Wil Lloyd wedi rhedeg lladd-dy bach, yn prosesu cig ffermwyr lleol.

Mae Huw Thomas o fferm Nantygaseg yn Nyffryn Dyfi, ei dad a'i dad-cu wedi delio gyda Wil a'i deulu ers degawdau.

Fe fydd yn rhaid i Huw fynd a'i wyn i ladd-dy arall yn y dyfodol.

"Fydd raid i ni moen am rhywle, lladd-dy arall, ond maen nhw i gyd filltiroedd i ffwrdd oddi wrthon ni ynde," meddai.

Yn ôl undeb NFU Cymru, ar ôl i ladd-dy Wil Lloyd Williams gau dim ond saith lladd-dy bach tebyg fydd ar ôl yng Nghymru.

'Gwasanaeth anhygoel o bwysig'

Mewn datganiad mae Hybu Cig Cymru wedi diolch i Wil Lloyd am ei waith dros y blynyddoedd.

Dywedodd y prif weithredwr Gwyn Howells bod "lladd-dai bach yn perfformio gwasanaeth anhygoel o bwysig i gymunedau lleol; gan ddarparu llwybr i lawer o gynhyrchwyr cig coch er mwyn gallu gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i'r defnyddiwr".

"Yn anffodus, mae nifer y lladd-dai bach wedi bod yn dirywio a gobeithir yn fawr y gellir dod o hyd i berchennog newydd yn yr achos hwn."

Pêl-droed yw cariad mawr Wil Lloyd - mae'n is-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a'r swydd yna yn mynd i lenwi'i amser nawr.

Ond a ddaw cigydd arall i lenwi'r bwlch y bydd Wil yn ei adael ar stryd fawr Machynlleth?