Hediadau rhwng Cymru a'r Alban i ailddechrau

  • Cyhoeddwyd
LoganairFfynhonnell y llun, Loganair
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr hediadau rhwng Caerdydd a Chaeredin yn dechrau ddydd Llun

Bydd cwmni hedfan yn dechrau llwybr rhanbarthol newydd yn cysylltu Cymru â'r Alban o ddydd Llun.

Bydd hediadau Loganair o Gaerdydd i Gaeredin yn rhedeg bum gwaith yr wythnos.

Daw ar ôl i'r cwmni hedfan Flybe fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth 2020, gan olygu bod llawer o lwybrau rhanbarthol yn y DU - gan gynnwys rhwng Caerdydd a Chaeredin - wedi'u colli.

Wrth siarad ym mis Mai, dywedodd Kay Ryan o gwmni hedfan yr Alban, Loganair, y byddai'r llwybr newydd yn llenwi'r bwlch a adawyd gan Flybe.

Dywedodd y byddai'r llwybr newydd yn "caniatáu i aelodau teulu ddod at ei gilydd yn ogystal â galluogi pobl i fwynhau seibiant haeddiannol".

Pynciau cysylltiedig