Achub pedwar o bobl yn dilyn tân mewn fflat yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
tânFfynhonnell y llun, Jonas Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 01:00

Mae tri phlentyn ac un oedolyn wedi eu hachub yn dilyn tân mewn fflat yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad mewn eiddo preswyl uwchben Gwesty Park Plaza am tua 01:00 fore Sadwrn.

Dim ond un fflat oedd wedi ei effeithio gan y fflamau, ond bu'n rhaid gwagio'r holl adeilad.

Cafodd y pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty ond doedd neb wedi eu hanafu yn ddifrifol yn y digwyddiad, yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans.

Roedd yr heddlu wedi gofyn i'r cyhoedd osgoi'r ardal tra bod criwiau tân yn delio â'r digwyddiad.

Fe lwyddodd swyddogion i reoli'r tân erbyn tua 05:00 ac mae ymchwiliad bellach wedi dechrau i achos y tân.

Ffynhonnell y llun, Jonas Smith
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r cyhoedd gadw draw o'r ardal tra bod swyddogion yn ymateb i'r digwyddiad

Pynciau cysylltiedig