Rhybudd melyn am stormydd i dde Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mellt

Mae rhybudd melyn am stormydd o fellt a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau o dde Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol bod perygl y gallai cawodydd trwm o law achosi llifogydd ac oedi i deithwyr.

Mae'r rhybudd mewn grym nes 23:00 nos Lun.

Y siroedd all gael eu heffeithio yw Blaenau Gwent, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Mynwy, Powys a Rhondda Cynon Taf.

Pynciau cysylltiedig