Arddangosfa newydd yn dangos bywyd yn Ystrad Fflur
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa newydd wedi agor yn Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion sy'n dangos sut oedd bywyd i'r bobl a fu'n byw ac yn ffermio yno dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
Mae'r arddangosfa - Mynachlog Fawr mewn 30 Gwrthrych - yn portreadu bywyd ar y fferm a adeiladwyd ar safle'r Abaty Sistersaidd enfawr sy'n dyddio o'r 13eg ganrif.
Mae Ystrad Fflur wedi'i ddisgrifio fel Abaty Westminster Cymru.
Defnyddiwyd cerrig o'r abaty adfeiliedig i adeiladu'r ffermdy a'r adeiladau allanol ar fferm Mynachlog Fawr.
Eitemau cudd
Dyma'r arddangosfa barhaol gyntaf a agorwyd gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, sydd wedi bod yn adfer adeiladau ar y fferm yn raddol.
Mae'r arddangosfa wedi'i lleoli yn y cartws a'r 'tŷ pair' - hen adeiladau sydd â rhannau sy'n dyddio yn ôl i'r 1600au a'r 1700au. Roedd y ddau adeilad yn dal i gael eu defnyddio'n llawn tan y 1990au.
Yn ystod y broses o adfer yr adeiladau, daeth eitemau a oedd wedi'u cuddio yn eu ffabrig oherwydd ofergoeliaeth i'r amlwg - darganfuwyd ŵy seramig wedi'i osod yn uchel y tu mewn i wal, a thair esgid sengl wedi'u claddu yn y llawr.
Credir i'r rhain gael eu rhoi yn yr adeilad i ddod â lwc dda ac i atal ysbrydion drwg.
Mae'r eitemau bellach yn cael eu harddangos yn union yr un llefydd lle cawsant eu darganfod.
Mae cyfanswm o 30 o eitemau yn cael eu harddangos - gwrthrychau a dogfennau a ddarganfuwyd yn y ffermdy ac adeiladau'r fferm sy'n dangos y gwaith caled â llaw ar y fferm mewn cyfnod cyn peiriannau a thrydan.
Mae'r llythyrau a'r dogfennau'n adrodd hanes y teulu Arch, y teulu olaf i weithio a byw yn y ffermdy.
Mae'r eitemau'n cynnwys torwyr mawn a ddefnyddiwyd i gynaeafu tanwydd a oedd unwaith yn gyffredin yn yr ardal, mangl a ddefnyddid gan deulu'r Arch i wasgu dŵr allan o ddillad a chynfasau ar ddiwrnod golchi, gwasg gaws o 1896 sydd wedi'i hadfer i'w hen ogoniant a llechi ysgol a ddefnyddid gan blant ar gyfer ymarfer llawysgrifen yn y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.
Cyfnod y rhyfel
Hefyd yn yr arddangosfa mae eitemau o'r Ail Ryfel Byd - mwgwd nwy plentyn a grenâd llaw byddin yr Unol Daleithiau nad oedd erioed wedi cynnwys ffrwydron.
Fe'u defnyddiwyd at ddibenion hyfforddi yn y caeau o amgylch Ystrad Fflur pan oedd milwyr wedi'u lleoli yno.
Hefyd o flynyddoedd y rhyfel, mae yna gadair a enillodd Dafydd Jones yn Eisteddfod 1943 ym Mhontrhydfendigaid.
Mae angen adfer un o'r eitemau sy'n cael eu harddangos ymhellach. Mae cloc taid wedi'i wneud yn y 19eg ganrif gan J Jones o Dregaron.
Mae'n gloc wyth niwrnod ac mae angen ei droi yn wythnosol i gadw'r amser cywir.
Ar hyn o bryd mae'r ymddiriedolaeth yn ceisio codi arian i dalu am arbenigwr i wneud atgyweiriadau a gwaith cadwraeth.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys croglun wal tecstil newydd a wnaed yn ystod y cyfnodau clo Covid - mae'n portreadu tai, hen siopau a nodweddion lleol eraill ac mae'n fath o fap cymunedol mawr o Bontrhydfendigaid fel y byddai wedi bod canrif yn ôl.
Mae yna hefyd sgrin gyffwrdd ryngweithiol sy'n cyflwyno hanes rhithwir o'r fferm a'r abaty - bydd yn mynd ag ymwelwyr yn ôl mewn amser ac yn cyflwyno y fferm yn ei hanterth yn y 1940au. Bydd modd cwrdd â'r cymeriadau yno a'u gweld wrth eu gwaith.
Dywedodd Andrew Green, cadeirydd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur: "Ar ôl misoedd lawer o waith caled, rydym wrth ein bodd i allu croesawu pobl o'r diwedd i'r Tŷ Pair a'r Cartws ar eu newydd wedd, i ddarganfod hanes cymdeithasol rhyfeddol y tŷ a'r gymuned.
"Gobeithiwn y bydd ymwelwyr, drwy'r eitemau hyn, yn teimlo sut brofiad oedd bywyd i'r bobl leol, ac yn deall y gwrthgyferbyniadau trawiadol a'r tebygrwydd annisgwyl rhwng y cyfnod hwnnw a heddiw.
"Mae'r arddangosfa'n rhoi cipolwg bywiog ar fywyd yng nghefn gwlad Ceredigion drwy'r oesoedd.
"Mae'r prosiect hwn yn garreg filltir arall yng ngwaith yr ymddiriedolaeth o rannu hanes cyfoethog y safle gyda'r cyhoedd, o'i ddechreuadau Sistersaidd canoloesol hyd at ei arwyddocâd cymdeithasol ac amaethyddol."
Mae'r arddangosfa ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn bob wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020