AS wedi 'dysgu byw gyda'r profiad' o golli ei gŵr
- Cyhoeddwyd
Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod colli ei gŵr mewn gwrthdrawiad car dros 30 mlynedd yn ôl wedi newid ei bywyd yn gyfan gwbl ac mewn podlediad newydd dywed hefyd bod Cymru a Chymreictod yn hynod o bwysig iddi.
"Roedd e'n foment Sliding Doors," meddai gan gyfeirio at ffilm Gwyneth Paltrow, wrth iddi ddwyn i gof yr hyn a ddigwyddodd 33 mlynedd yn ôl.
"Fe briodais fy mhartner tymor hir ac fe gawson ni fabi ond yna fe gafodd fy ngŵr ei ladd wedi gwrthdrawiad pan oedd ein merch yn 11 mis oed - ac mae'r cyfan yn newid bywyd rhywun."
Ar y pryd roedd Ms James yn byw yn Llundain a newydd gymhwyso i fod yn fargyfreithiwr "gyda'r nod o fod yn Aelod Seneddol".
Mae Ms James yn rhannu ei phrofiad mewn podlediad newydd sy'n holi pobl amlwg ym myd gwleidyddol Cymru.
Wedi colli ei gŵr fe wnaeth hi newid gyrfa a mynd i weithio ym myd llywodraeth leol yn Camden yng ngogledd Llundain er mwyn cael "bywyd mwy sefydlog".
'Dysgu byw gyda'r profiad'
Wrth gael ei holi dywedodd: "Ry'ch chi byth yn dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd - byth. Dysgu byw gyda'r profiad ry'ch chi.
"Ac fe fues i'n ffodus iawn i gyfarfod â fy ngŵr presennol David... ac i ddweud y gwir fe a wnaeth fy achub i. Achub ni."
Mae gan y cwpl ddau fab sydd wedi'u magu yng Nghymru.
"Doedd David ddim yn sylweddoli pa mor Gymreig o'n i nes bod e'n fy nghlywed yn siarad gyda Mam ar y ffôn," meddai.
"Mae bod yn Gymraes yn bwysig i fi."
Wrth gael ei holi a yw hi'n Gymraes neu'n Brydeines mae'n dweud heb oedi ei bod hi'n bendant yn Gymraes.
"Wrth i fi symud o hyd, dyna oedd fy angor. Roedd fy Mam-gu yma. Roedd fy rhieni yn cyfeirio [at Gymru] fel mynd adref."
Dywed Ms James ei bod wedi symud nifer o weithiau.
"Doedd fy nhad ddim yn setlo yn unlle yn hir ac roeddem yn symud bob ryw 18 i 20 mis ond wastad yn dychwelyd i Gymru yn y canol.
"Fe ges i blentyndod llawn hwyl ond braidd yn rhyfedd," ychwanegodd gan egluro bod y teulu wedi byw yng Nghanada, yr Unol Daleithiau a Nenagh yn Sir Tipperary yn Iwerddon.
Mae'n ychwanegu bod ganddi berthynas gyda'i chwaer, sy'n byw yn Abertawe, a'i brawd Richard - cerddor o fri sy'n perfformio dan yr enw Aphex Twin.
O bosib, nid yw'n rhyfedd mai record Aphex Twin oedd yr anrheg a roddodd hi i'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, wrth iddo adael ei swydd ym mis Rhagfyr 2018.
Fe gafodd Ms James ei hethol yn gyntaf i Fae Caerdydd yn 2011 gan gynrychioli etholaeth Gorllewin Abertawe.
Yn 2014 fe'i penodwyd yn ddirprwy weinidog ac ymunodd â'r cabinet yn 2017. Hi bellach yw'r gweinidog newid hinsawdd newydd.
"Dwi ddim yn mwynhau'r swydd eto ond rwy'n credu y byddaf yn ei mwynhau," meddai.
"Wrth ymgymryd â swydd newydd mae'n cymryd rhwng tri a chwe mis cyn i chi ddeall yn iawn beth ry'ch yn ei ddarllen.
"Bydd gennym lawer o benderfyniadau anodd i'w gwneud yn ystod y blynyddoedd nesaf."
Fis wedi'i phenodi dywedodd bod yn rhaid i Gymru wneud dwywaith gymaint ynghylch newid hinsawdd yn y 10 mlynedd nesaf "nag yr ydym wedi ei wneud yn y 30 mlynedd diwethaf".
Wrth gael ei holi a oes angen i bobl Cymru aberthu rhai pethau er mwyn diogelu'r amgylchedd dywed nad yw llawer o bobl Cymru yn mynd tramor, beth bynnag, a bod llawer hefyd ddim yn berchen ar gar.
"Fydd dim rhaid aberthu gwyliau tramor a cheir," meddai, "felly mae'n rhaid i ni wneud hyn mewn ffordd sy'n gyfiawn yn gymdeithasol.
"Rwy'n mwynhau gwyliau tramor gymaint ag unrhyw un arall - a dwi'n mwynhau sgïo, ac yn y blaen.
"Ond dwi'n mynd i orfod meddwl o ddifri', fwy nag o'r blaen... sut mae cyrraedd yno, be' dwi'n ei wneud pan dwi yno, sut ry'n yn gwario ein harian ac a ydy be' dwi'n ei wneud o fudd i'r bobl leol."
Wrth gael ei holi am a oedd yna drafodaethau wedi'u cynnal am bwy fydd yn olynu'r prif weinidog, mae'n dweud "na dim eto".
"Rwy'n gobeithio y bydd e'n aros, ond rwy'n amau nad yw'n dymuno hynny," meddai Ms James.
"Mi fydd hi'n ddwy flynedd mae'n siŵr cyn i ni ddechrau meddwl am olynydd."
Ond mae Ms James, fodd bynnag, yn benderfynol na fydd hi'n ymgeisio am y swydd.
"Mae'n swydd ofnadwy. Fyddai i ddim yn ei gwneud hi. Yn bendant ddim."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021