Cynllun peilot ail gartrefi yn 'wan' a 'di-gyfeiriad'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Er bod gan Elfed saith swydd, nid yw'n gallu fforddio tŷ yn y pentre' ble gafodd ei fagu

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru wedi cael eu beirniadu am fod yn "wan" a "di-gyfeiriad".

Mae newidiadau i drethi lleol a rheolau cynllunio ymysg y newidiadau y mae'r llywodraeth yn eu hystyried i fynd i'r afael â'r mater.

Bydd y llywodraeth yn dewis ardal o Gymru i dreialu'r polisïau newydd mewn ymdrech i "ddod â thegwch yn ôl i'n marchnad dai".

Ond mae Plaid Cymru ac eraill wedi beirniadu'r cynlluniau, gan ddweud nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell a bod diffyg manylion.

Fe fydd y gweinidog newid hinsawdd, Julie James, yn amlinellu'r "cynllun tri rhan" ddydd Mawrth.

Ymhlith yr awgrymiadau mae bwriad i fynd i'r afael â thai fforddiadwy, a chyfanswm y tai sydd ar gael yn gyfan gwbl yng Nghymru.

Bydd swyddogion hefyd yn edrych ar opsiynau posib i sicrhau nad yw perchnogion ail gartref yn gallu cael eu heithrio rhag talu treth cyngor a chyfraddau busnes.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gweinidog newid hinsawdd, Julie James (canol), yn amlinellu'r "cynllun tri rhan" ddydd Mawrth

Yn ôl ffigyrau swyddogol, dolen allanol roedd 24,873 ail gartref wedi eu cofrestru ar gyfer treth cyngor yng Nghymru ym mis Ionawr 2021.

Ond mae swyddogion yn rhybuddio y gallai'r nifer yna fod llawer yn uwch, yn dibynnu ar sut mae ail gartref yn cael ei ddiffinio.

Gwynedd sydd â'r nifer fwyaf o ail gartrefi - 5,098 - 20% o gyfanswm Cymru gyfan.

Mae 4,068 wedi eu cofrestru yn Sir Benfro, gyda 3,477 yng Nghaerdydd, 2,139 yn Sir Fôn a 2,104 yn Abertawe.

'Ni'n cael ein prisio allan o'r farchnad'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Kelway-Lewis yn rhentu carafán ar hyn o bryd am nad ydy hi'n gallu fforddio tŷ yn Sir Benfro

Mae Rachel Kelway-Lewis, 25, ymysg y rheiny sy'n ei chael yn anodd cael tŷ yn ei hardal leol yn Sir Benfro.

Yn wreiddiol o bentref Solfach, mae hi nawr yn gweithio i Gyngor Sir Gâr ac yn byw mewn carafán y mae hi'n ei rentu ger Tyddewi.

Dywedodd bod gallu fforddio tŷ yn yr ardaloedd hynny yn "anhygoel o anodd".

"Ar hyn o bryd mae 'na blotiau yn unig sy'n cael eu gwerthu am £350,000 - datblygiadau moethus, pan mae gennych chi gymaint o bobl leol sydd ddim yn gallu fforddio i fyw yn yr ardal y cafon nhw eu magu," meddai.

"Fe wnes i symud i ffwrdd i fynd i'r brifysgol ac yna dod yn ôl yma.

"Bydden i wir yn hoffi prynu yn lleol - rwy'n gweithio'n llawn amser - ond yn anffodus rydyn ni'n cael ein prisio allan o'r farchnad gan berchnogion ail gartrefi."

Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr yn y gogledd a'r gorllewin wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n ei gredu sy'n argyfwng tai oherwydd y niferoedd uchel o ail gartrefi.

Yn dilyn adroddiad diweddar, dolen allanol gan y Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe mae'r llywodraeth yn addo "haf o weithredu a fydd yn eu galluogi i ddod i'r casgliad ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r broblem".

Bydd ymgynghoriad ar gynllun i warchod buddiannau cymunedau Cymraeg yn cychwyn yn yr hydref.

Disgrifiad o’r llun,

Gwynedd sydd â'r nifer fwyaf o ail gartrefi yng Nghymru - 5,098 yn swyddogol

Mae Ms James yn cynnig cynllun tri rhan:

  • Cefnogaeth - mynd i'r afael â thai fforddiadwy a chyfanswm y tai sydd ar gael;

  • Fframwaith a system reoleiddio - ystyried y gyfraith gynllunio yn ogystal â chreu cofrestr statudol ar gyfer llety gwyliau;

  • Cyfraniad tecach - defnyddio systemau trethiant cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartref yn gwneud cyfraniad "teg" i gymunedau.

Disgrifiad,

"Does 'na ddim cynllun gweithredu clir. Mae'r rhagrithiol mewn gwirionedd," meddai Rhys Tudur

Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur: "Dwi'n croesawu'r datganiad wrth gwrs, ond beth sydd yn pryderu fi yw bo' nhw yn dweud bod o'n gynllun arloesol, a bod o'n gynllun gweithredol, ond y broblem ydy does 'na ddim amlinelliad o beth maen nhw'n mynd i weithredu.

"Does 'na ddim cynllun gweithredu clir. Mae'r rhagrithiol mewn gwirionedd.

"Erbyn rŵan - yr holl amser mae pawb wedi bod yn pwyso arnyn nhw i weithredu - dylen nhw fod efo'r atebion wrth law."

'Dim treialu - gweithredu'

Ychwanegodd Mr Tudur y byddai'n hoff o weld y cynllun peilot yn cael ei gynnal yn eu hardal nhw.

"Da ni wedi gofyn ers tro byd i'r llywodraeth dreialu'r cynllun yma yn Nefyn," meddai.

"Dwi yn gobeithio nawn nhw dreialu yma ond beth fydden i yn licio ei weld ydy bo' nhw'n neud o ar raddfa eang.

"Does dim angen treialu bellach - mae angen ei weithredu fo.

"Mae'n goblyn o argyfwng mewn sawl cymuned. Fydd 'na ddim cymunedau ar ôl os nad oes 'na rywbeth yn cael ei wneud yn eang."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl protest wedi cael eu cynnal yn y gogledd yn galw ar y llywodraeth i weithredu

Wrth ymateb i'r cynllun dywedodd llefarydd tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS: "Mae'r 'dull uchelgeisiol' bondigrybwyll hwn o fynd i'r afael ag argyfwng tai ail gartref yn ymarfer o gicio'r broblem i lawr y lôn heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â'r argyfwng sy'n wynebu ein cymunedau.

"Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i'r afael ag argyfwng tai sy'n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus.

"Nid oes unrhyw fanylion dim ond cynlluniau annelwig ar gyfer mwy o ymgynghori."

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn cydnabod fod pobl ifanc yn ei chael yn anodd prynu tai yn eu cymunedau, ond nad ail gartrefi sy'n gyfrifol am hynny.

Ychwanegodd bod adroddiad Dr Brooks yn dweud mai "ychydig o dystiolaeth sydd yna i ddweud mai ail gartrefi ydy prif achos prisiau tai uchel", yn hytrach na phobl sy'n symud yno i fyw yn barhaol.

'Segur a di-gyfeiriad'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo cynlluniau Llywodraeth Cymru o fod yn "segur a di-gyfeiriad", a'u bod yn "llaesu dwylo tra bod argyfwng yn y farchnad dai ar hyd a lled Cymru".

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Mabli Siriol: "Dywed y llywodraeth eu bod yn bwriadu arwain 'haf o weithredu' i ddatrys yr argyfwng tai, ond ymddengys eu bod yn hytrach yn bwriadu treulio'r haf yn segur a di-gyfeiriad.

"Rydyn ni'n falch o weld bod y llywodraeth yn cydnabod y sefyllfa ddifrifol sy'n wynebu ein cymunedau a'r Gymraeg, ond mae angen gweithredu go iawn.

"Yr hyn mae'r llywodraeth yn ei gynnig yw ymrwymiadau annelwig a di-uchelgais, a chynlluniau peilot ac ymgynghoriadau fydd yn cymryd blynyddoedd i wneud gwahaniaeth — ac erbyn hynny, mae perygl gwirioneddol y bydd yn rhy hwyr."