Buddugoliaeth o bum wiced i Forgannwg dros Surrey

  • Cyhoeddwyd
Hamish RutherfordFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Hamish Rutherford oedd y prif sgoriwr i Forgannwg gyda 58

Mae Morgannwg wedi curo Surrey o bum wiced yn y Cwpan Undydd yng Nghaerdydd.

Dim ond 132 sgoriodd yr ymwelwyr mewn batiad siomedig, gyda Rikki Clarke yn brif sgoriwr ar 35.

Roedd 'na dair wiced i Andrew Salter, a dwy yr un i Lukas Carey a Joe Cooke wrth i Surrey gael eu bowlio allan mewn 44 pelawd.

Dim ond 26.5 pelawd oedd Morgannwg eu hangen i gyrraedd y targed o 133.

Sgoriodd Hamish Rutherford 58 a Steven Reingold 40 i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Cymry, a orffennodd y batiad ar 133-5.

Pynciau cysylltiedig